Main content

Casi

Mae Casi, sy’n dod o Fangor, yn bresenoldeb sy’n eich cyffroi’n lân, yn seren bop dalentog ac yn un sy'n huawdl ei cherddoriaeth ar gyfer ail ddegawd y mileniwm, a thu hwnt.

Dydy Cymru ddim yn enwog am ei chwaraewyr synth-pop atmosfferig, lysh, ond mae senglau cyntaf Casi Wyn sydd wedi cael cryn glod (Cân Orau 2013 ar sioe Bethan Elfyn ar ´óÏó´«Ã½ Radio Wales a chefnogaeth ar ´óÏó´«Ã½ Radio 1 i ‘Grace’) wedi unioni’r cydbwysedd i raddau. Mae ei sain unigryw ei hun rywle rhwng M83, ‘Take My Breath Away' Berlin a Jessie Ware.

(Gan Adam Walton, cyflwynydd ´óÏó´«Ã½ Radio Wales)

Clips

Galleries

Gwefannau Eraill