Sut all genynnau newid? Achosir mwtaniadau gan sawl ffactor, a gallant achosi anhwylderau genetig. Sut all therapi genynnau helpu i drin yr anhwylderau hyn?
Anhwylder etifeddol yw ffibrosis cystig sy鈥檔 creu mwcws gludiog. Mae鈥檔 effeithio ar yr ysgyfaint a鈥檙 pancreas yn bennaf. Caiff ei achosi gan alel enciliol. Mewn diagram genetig:
gellir dangos yr alel enciliol ar ffurf f
gellir dangos yr alel trechol ar ffurf F
Yn enghraifft un, mae鈥檙 ddau riant yn heterosygaidd Ff 鈥 maent yn gludwyr y clefyd. Mae hyn yn golygu bod alel ffibrosis cystig ganddynt ac y gallent ei drosglwyddo i鈥檞 plant. Ond mae ganddynt alel normal trechol hefyd, felly nid ydynt yn dioddef o鈥檙 clefyd eu hunain. Mae siawns 1 mewn 4, neu 25%, y byddant yn cynhyrchu plentyn 芒 ffibrosis cystig arno.
Yn enghraifft dau, dim ond un rhiant (y tad) sydd 芒 chopi o鈥檙 alel enciliol. Does dim siawns iddynt gynhyrchu plentyn 芒 ffibrosis cystig arno. Ond bydd hanner yr epil posibl yn homosygaidd, FF, a hanner yn heterosygaidd, Ff. Cymhareb FF i Ff yw 1:1, neu 50%.
Coed teulu
Anhwylder etifeddol yw ffibrosis cystig. Caiff ei basio i lawr drwy鈥檙 cenedlaethau a gellir ei olrhain mewn coed teulu.
Os bydd gwryw heb ffibrosis cystig (FF) a benyw sy鈥檔 gludydd (Ff) yn atgenhedlu, gallant gynhyrchu epil sydd naill ai ddim yn cludo alel ffibrosis cystig (FF), neu sy鈥檔 gludwyr (Ff). Ystyr hyn yw nad ydynt yn dangos unrhyw symptomau o鈥檙 clefyd ond y gallant drosglwyddo alel y clefyd i鈥檞 hepil.
Os bydd yr epil sy鈥檔 gludydd yn atgenhedlu gyda chludydd arall, yna bydd eu plant naill ai ddim yn cludo鈥檙 alel o gwbl (FF), neu鈥檔 gludwyr (Ff), neu鈥檔 dioddef o glefyd ffibrosis cystig (ff).