Agwedd a pholis茂au Arlywyddion y Blaid Weriniaethol
Cafodd yr Unol Daleithiau eu harwain gan dri Arlywydd Gweriniaethol yn ystod y 1920au, sef Warren G Harding, Calvin Coolidge a Herbert Hoover.
Polis茂au'r Arlywyddion Gweriniaethol yma oedd peidio 芒 gadael i'r llywodraeth ymyrryd yn yr economi - hynny yw, polisi laissez-faireTerm Ffrengig. Y wladwriaeth yn rhoi rhyddid i'r economi.. Golygai hyn fod gan fusnesau mawr y rhyddid i allu ehangu heb gael eu rhwystro gan y llywodraeth.
Warren Harding (1921-23)
Ei addewid oedd dychwelyd at normalrwydd
. Gostyngodd drethi er mwyn rhoi mwy o arian i fusnesau dyfu ac er mwyn rhoi mwy o arian ym mhocedi Americanwyr cyffredin. Yn 1922, cyflwynodd Harding Deddf Tollau Fordney-McCumberRhoi trethi ar nwyddau oedd yn cael eu mewnforio o dramor er mwyn annog pobl i brynu nwyddau o America. oedd yn gosod treth ar nwyddau o wledydd tramor. Roedd hyn yn gwneud nwyddau tramor yn ddrutach na nwyddau cartref, ac felly'n hybu Americanwyr i brynu nwyddau Americanaidd yn unig. Yr enw ar y polisi yma oedd diffynnaeth (protectionism).
Calvin Coolidge (1923-29)
Busnes yw busnes America
meddai. Cadwodd Coolidge at yr un polisi 芒 Harding. Er nad oedd yn gwneud llawer, ei lysenw oedd Silent Cal, credai Americanwyr ei fod yn Arlywydd da gan fod yr economi mor gryf. Roedd ganddo barch mawr at ddynion busnes a glynai at y polisi laissez-faire. Rhoddodd ryddid i ddynion busnes wneud elw a chyfoeth.
Roedd hyd yn oed papur newydd y Wall Street Journal yn canmol y polisi yma: Nid oes unrhyw lywodraeth erioed o'r blaen, yma nag yn unrhyw wlad arall, wedi llwyddo i uno mor llwyr 芒 byd busnes.
Herbert Hoover (1929-32)
Daeth yn Arlywydd yn 1929 yn dilyn ei addewid i roi cyw i芒r ym mhob crochan, a char ymhob garej
. Credai Hoover mewn laissez-faire, ond hefyd mewn unigolyddiaeth grymusRhyddid i'r unigolyn lwyddo.. Ystyr hyn oedd na ddylai pobl ddibynnu ar y llywodraeth am gymorth - fe ddylen nhw ateb eu problemau trwy weithio'n galetach. Byddai Hoover yn colli'r etholiad Arlywyddol nesaf yn 1932 oherwydd yr agwedd yma - roedd yn rhy llym - yn enwedig ar 么l Cwymp Wall Street a'r Dirwasgiad.
Arlywydd | Termau allweddol |
Warren Harding (1921-23) | "Dychwelyd at normalrwydd", Ddeddf Fordney-McCumber, Diffynnaeth |
Calvin Coolidge (1923-29) | "Busnes yw busnes America", laissez-faire |
Herbert Hoover (1929-32) | Unigolyddiaeth grymus |
Arlywydd | Warren Harding (1921-23) |
---|---|
Termau allweddol | "Dychwelyd at normalrwydd", Ddeddf Fordney-McCumber, Diffynnaeth |
Arlywydd | Calvin Coolidge (1923-29) |
---|---|
Termau allweddol | "Busnes yw busnes America", laissez-faire |
Arlywydd | Herbert Hoover (1929-32) |
---|---|
Termau allweddol | Unigolyddiaeth grymus |