Y gymdeithas draul newydd
Dyblodd twf diwydiannol UDA yn y 1920au. Cafodd y cynnydd mwyaf ei weld yn y diwydiannau newydd fel cemegion, nwyddau trydanol a cheir. Sicrhaodd cyflwyno trydan yn y cartref ddatblygiad enfawr yn y diwydiant nwyddau trydanol ar gyfer y ty. Yn 1919 cafodd 60,000 set radio ei gwerthu, ond yn 1929 fe werthwyd 10 miliwn. Cafodd cynnydd tebyg ei weld mewn gwerthiant offer ff么n, o 10 miliwn yn 1915 i 20 miliwn yn 1930.
Roedd diwydiant adeiladu America yn fwy prysur yn ystod y 1920au nag yn unrhyw gyfnod o'r blaen. Roedd hyn yn rhannol oherwydd y galw a ddaeth i adeiladu ffatr茂oedd newydd a swyddfeydd i gwmn茂au bancio, yswiriant a hysbysebu. Dyma gyfnod y nendwr (skyscraper) 鈥 roedd cwmn茂au eisiau dangos eu pwer a bri trwy adeiladu'r swyddfeydd talaf a mwyaf crand.
Dylanwad y diwydiant ceir
Syniad Ford oedd adeiladu car trwy ei osod ar llinell gydosodY nwyddau'n symud at y gweithwyr mewn ffatri. drydanol. Byddai'r car yn symud yn araf gyda phob gweithiwr yn gwneud un dasg benodol yn unig. Fel hyn, byddai'n bosib adeiladu Model T Ford mewn awr a hanner yn lle 13.5 awr. Erbyn canol y 1920au roedd 7,500 o geir yn cael eu cynhyrchu bob dydd - un car bob 10 eiliad.
Newidiodd y car America ym mhob ffordd. Arweiniodd at adeiladu ffyrdd newydd a maestrefi (suburbs). Roedd ffordd o fyw pobl yn newid yn fawr iawn. Fe wnaeth datblygiad y diwydiant ceir sbarduno twf mewn diwydiannau eraill, ee roedd ceir yn defnyddio 90 y cant o betrol America, ynghyd ag 80 y cant o rwber y wlad a 75 y cant o'i gwydr.