大象传媒

Llythrennedd ddigidolSiartiau data di-dor

Mae鈥檔 bwysig deall y gwahanol fathau o ddata y gallwn eu defnyddio i greu siartiau, graffiau a thablau. Drwy drefnu gwybodaeth yn glir mae鈥檔 bosibl sicrhau bod y darllenydd yn deall y cynnwys.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Siartiau data di-dor

Un o鈥檙 mathau gorau o siartiau er mwyn arddangos data di-dor yw graff llinell.

Fel arfer mae graffiau llinell yn dangos data dros gyfnod penodol o amser. Er hyn, gallant ddangos mathau eraill o ddata di-dor, er enghraifft data pellter neu oedran.

Dyma enghraifft o graff llinell sy鈥檔 dangos oed disgyblion mewn ysgol a鈥檙 niferoedd sy鈥檔 berchen ar ff么n symudol.

Tabl i ddangos 'Oed' yn 么l 'Niferoedd y disgyblion'. 11: 132. 12: 268. 13: 246. 14: 300. 15: 342. 16: 350.

Drwy glicio ar y botwm graff llinell sydd i'w weld yn y bar offer o fewn y daenlen rwyt ti'n gweithio ynddi, byddi di'n gallu creu graff llinell.

Graff i ddangos niferoedd y disgyblion o wahanol oedran sy'n berchen ar ffonau symudol mewn ysgol. 11 oed: 132. 12 oed: 268. 13 oed: 246. 14 oed: 300.

Enghraifft o grynodeb

Disgyblion 16 oed sy鈥檔 berchen ar y nifer mwyaf o ffonau symudol, yna disgyblion 15 oed, yna disgyblion 14 oed. Disgyblion 11 oed sy鈥檔 berchen ar y nifer lleiaf o ffonau symudol.