大象传媒

Llythrennedd ddigidolTablau effeithiol

Mae鈥檔 bwysig deall y gwahanol fathau o ddata y gallwn eu defnyddio i greu siartiau, graffiau a thablau. Drwy drefnu gwybodaeth yn glir mae鈥檔 bosibl sicrhau bod y darllenydd yn deall y cynnwys.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Tablau effeithiol

Mae tabl yn gweithio orau:

  • pan fydd data rhifiadol yn cael eu darllen ar i lawr, ac nid ar draws, hynny yw yn cael eu harddangos mewn colofnau yn hytrach na rhesi
  • pan fydd rhifau yn cael eu harddangos yn eu ffurf symlaf, ee 拢3.2 miliwn yn hytrach na 拢3,200,000
  • pan fydd gan y tabl deitl a rhif, yn enwedig os oes mwy nag un tabl mewn dogfen, ee Tabl 1, Tabl 2
  • pan fydd y tabl yn nodi o ble mae鈥檙 wybodaeth rifiadol yn dod, hynny yw y ffynhonnell
  • pan fydd y colofnau鈥檔 gul (cyn belled bod digon o le i鈥檙 wybodaeth), oherwydd mae colofnau llydan yn gwneud tablau yn anodd i鈥檞 darllen

Enghraifft o dabl effeithiol

Tabl wedi ei labelu yn tynnu sylw at y teitl, colofnau cul, data rhifiadol yn darllen ar i lawr, rhifo fformat syml ac enw'r ffynhonnell.