Defnyddio tablau
Mae鈥檔 bosibl defnyddio tablau i gyflwyno data rhifiadol.
Mae tablau yn gallu bod yn effeithiol wrth ddangos sut mae un math o wybodaeth yn amrywio mewn gwahanol gyd-destunau, ee mewn gwahanol wledydd, mewn gwahanol flynyddoedd neu mewn gwahanol ysgolion ac yn y blaen.
Mae鈥檙 tabl hwn yn dangos y cyfraddau gordewdra uchaf mewn gwahanol wledydd.
Mae tablau hefyd yn gallu bod yn effeithiol pan nad oes llawer o ddata i鈥檞 dangos, neu os wyt ti am dynnu sylw at werth penodol.
Mae鈥檙 tabl hwn yn dangos cyfraddau diweithdra y Deyrnas Unedig dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Mae鈥檙 tabl yn dangos mai 0.1 y cant yw鈥檙 newid yn y gyfradd ddiweithdra, er gwaetha鈥檙 bwlch o ddeng mlynedd.
Yn ogystal, mae鈥檔 bosibl defnyddio gwybodaeth berthnasol o dabl neu graff mawr i greu tabl neu graff llai sy鈥檔 dangos y data sy鈥檔 berthynol i dy bwnc di.
Dyma graff sy鈥檔 dangos cyfraddau diweithdra ymhlith pobl ifanc mewn gwahanol wledydd.
Byddai鈥檔 bosibl i ti godi鈥檙 wybodaeth allweddol o鈥檙 graff hwn a chreu tabl i ddangos hyn yn gliriach. Yma mae鈥檙 tabl wedi cael ei greu i ddangos y wlad sydd 芒鈥檙 gyfradd isaf a鈥檙 gyfradd uchaf o鈥檌 chymharu 芒鈥檙 Deyrnas Unedig.
Neu, byddai鈥檔 bosibl i ti roi鈥檙 data hyn mewn graff llai neu symlach er mwyn tynnu sylw at y gwahaniaeth.
Mae鈥檔 haws gweld nawr bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yn isel iawn yn Lwcsembwrg ond yn uchel iawn yng ngwlad Groeg, a bod y Deyrnas Unedig rywle yn y canol.