大象传媒

Llythrennedd ddigidolSiart data cyfrannol

Mae鈥檔 bwysig deall y gwahanol fathau o ddata y gallwn eu defnyddio i greu siartiau, graffiau a thablau. Drwy drefnu gwybodaeth yn glir mae鈥檔 bosibl sicrhau bod y darllenydd yn deall y cynnwys.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Siart data cyfrannol

Efallai bydd dy ddata yn dangos canrannau, rhan neu gyfran o rywbeth, ee mewn dosbarth o 30, efallai bydd 15 bachgen a 15 merch. Mae hyn yn golygu bod 50 y cant o鈥檙 dosbarth yn fechgyn a 50 y cant o鈥檙 dosbarth yn ferched (sy鈥檔 gwneud 100 y cant).

Mae hyn yn cael ei alw'n ddata cyfrannol.

Siartiau cylch

Fel arfer, y math gorau o siart ar gyfer data cyfrannol yw siart cylch.

Mae siartiau cylch yn gweithio鈥檔 dda pan fydd niferoedd bach o gyfrannau neu gategor茂au. Gall gormod o gyfrannau wneud i鈥檙 siart cylch edrych yn orlawn.

Enghraifft

Gofynnwyd i ddysgwyr ddweud a ydynt yn cytuno鈥檔 gryf, cytuno, anghytuno neu'n anghytuno鈥檔 gryf 芒鈥檙 datganiad a ganlyn.

Dylid caniat谩u ffonau symudol mewn ysgolion.

Y cam cyntaf yw rhoi dy ddata mewn taenlen.

Tabl ymatebion i holiadur: Cytuno'n gryf: 45%. Cytuno: 25%. Anghytuno: 25%. Anghytuno'n gryf: 5%.

Yna clicia ar y botwm siart cylch yn y bar offer a byddi鈥檔 gallu creu siart cylch.

Siart cylch yn dangos canran pob ymateb i'r datganiad 'Dylid caniat谩u ffonau symudol mewn ysgolion': Cytuno'n gryf: 45%. Cytuno: 25%. Anghytuno: 25%. Anghytuno'n gryf: 5%.

Mewn siart cylch, nid yw鈥檔 bosibl cael teitl i bob echelin, oherwydd nid oes echelinau. Yn lle hynny, mae angen allwedd. Mae鈥檙 allwedd yn egluro beth mae pob rhan yn ei dangos. Yn yr enghraifft hon, mae鈥檙 rhan goch yn dangos cyfran y dysgwyr sy鈥檔 cytuno na ddylid caniat谩u ffonau symudol mewn ysgolion. Mae 25 y cant o鈥檙 dysgwyr yn cytuno 芒鈥檙 datganiad hwn.

Crynodeb

  • Rhaid i bob siart gael teitl sy鈥檔 crynhoi鈥檙 wybodaeth sydd yn y graff.
  • Ar gyfer siart bar a graff llinell, bydd angen allwedd ar gyfer echelin-\({x}\) (ee oedran, blwyddyn, pellter) ac allwedd ar gyfer echelin-\({y}\) (ee miliynau, taldra).
  • Ar gyfer siart cylch, bydd angen allwedd sy鈥檔 dangos beth mae pob rhan yn ei chynrychioli.