Cymharu asidau gwan ac asidau cryf [TGAU Cemeg yn unig]
Asidau gwan ac asidau cryf
Mae asidau cryf yn daduno鈥檔 llwyr mewn d诺r i gynhyrchu鈥檙 nifer mwyaf posibl o 茂onau H+. Mae hyn yn golygu y byddai un mol o foleciwlau asid hydroclorig (HCl) i gyd yn 鈥榟ollti鈥 i ffurfio un mol o 茂onau H+ ac un mol o 茂onau Cl鈥.
Dydy asidau gwan, fel asid ethan枚ig (CH3COOH), ddim yn daduno鈥檔 llwyr. Dim ond tuag un y cant o foleciwlau asid ethan枚ig sy鈥檔 hollti i ffurfio 茂onau H+ ac 茂onau CH3COO鈥 ar unrhyw un adeg.
Mae hyn yn golygu bod gwerthoedd pH asidau cryf yn is na gwerthoedd asidau gwan, sy'n egluro pam bod cyfradd adwaith asidau cryf 芒 sylweddau (megis metelau, carbonadau metel ac ati) yn uwch na chyfradd asidau gwan.
Mae hyn hefyd yn egluro pam bod cynnydd mewn tymheredd yn ystod adwaith gydag asidau cryf yn uwch nag asidau gwan.
Asidau crynodedig a gwanedig
Cofia鈥檙 gwahaniaeth rhwng gwan a chryf a gwanedig a chrynodedig. Mae asid gwanedig yn golygu bod y moleciwlau asid wedi cymysgu 芒 llawer o dd诺r, fel bod crynodiad yr 茂onau H+ yn isel. Mae asid crynodedig yn golygu nad oes llawer o foleciwlau d诺r wedi鈥檜 cymysgu 芒鈥檙 moleciwlau asid, fel bod crynodiad yr 茂onau H+ yn uchel.