Titradu asid-alcali
Gallwn ni gyfrifo crynodiad asidSylwedd cyrydol sydd 芒 pH is na 7. Mae asidedd yn cael ei achosi gan grynodiad uchel o 茂onau hydrogen. neu alcaliBas sy'n hydawdd mewn d诺r. drwy gynnal arbrawf o鈥檙 enw titradiadGweithdrefn feintiol lle mae dau hydoddiant yn adweithio mewn cymhareb ddiffiniedig, felly os ydyn ni鈥檔 gwybod beth ydy crynodiad un hydoddiant ac yn mesur cyfeintiau鈥檙 ddau, yna gallwn weld beth ydy crynodiad yr hydoddiant arall..
Defnyddiau
Mae鈥檙 cyfarpar sydd ei angen yn cynnwys:
- pibed i fesur cyfaintMae cyfaint si芒p tri dimensiwn yn dangos faint o le neu ofod sydd ynddo, ee cyfaint diod mewn can ydy 330 ml. penodol o asid neu alcali yn fanwl gywir
- llanwydd pibed i ddefnyddio鈥檙 bibed yn ddiogel
- fflasg gonigol i ddal yr hylif o鈥檙 bibed
- bwred i ychwanegu symiau bach wedi鈥檜 mesur o un adweithydd at yr adweithydd arall yn y fflasg gonigol
Dull
Dyma amlinelliad o鈥檙 dull i gynnal titradiad lle caiff asid ei ychwanegu at alcali.
- Defnyddio鈥檙 bibed a llanwydd pibed i roi 25 cm3 o alcali mewn fflasg gonigol l芒n.
- Ychwanegu rhai diferion o dangosyddSylwedd 芒 gwahanol liwiau, gan ddibynnu ar pH yr hydoddiant mae鈥檔 cael ei roi ynddo. a rhoi鈥檙 fflasg gonigol ar deilsen wen.
- Llenwi鈥檙 fwred ag asid a nodi鈥檙 cyfaint cychwynnol.
- Ychwanegu鈥檙 asid o鈥檙 fwred yn araf at yr alcali yn y fflasg gonigol, gan ei chwyrl茂o hi i gymysgu鈥檙 hydoddiant.
- Stopio ychwanegu鈥檙 asid ar 么l cyrraedd y diweddbwynt (pan mae鈥檙 newid lliw priodol yn digwydd i鈥檙 dangosydd). Nodi鈥檙 darlleniad cyfaint terfynol.
Mae鈥檙 un dull yn gweithio i ychwanegu alcali at asid 鈥 dim ond amnewid yr hylifau sy鈥檔 mynd i mewn i鈥檙 fflasg gonigol a鈥檙 fwred.
Y titr [Haen uwch - Cemeg yn unig]
Mae鈥檙 gwahaniaeth rhwng y darlleniad ar y dechrau a鈥檙 darlleniad terfynol yn rhoi cyfaint yr asid (neu alcali) sydd wedi鈥檌 ychwanegu. Y cyfaint hwn yw鈥檙 titr.
Er enghraifft, os yw鈥檙 darlleniad ar y dechrau yn 1.00 cm3 a鈥檙 darlleniad terfynol yn 26.50 cm3, mae鈥檙 titr yn 25.50 cm3 (26.50 鈥 1.00). Bydd y titr yn dibynnu ar gyfaint yr hylif yn y fflasg gonigol, ac ar grynodiadau鈥檙 asid a鈥檙 alcali sy鈥檔 cael eu defnyddio.
Ailadrodd y titradiad nes bod y titrau yn 驳测迟没苍 - sef bod gen ti o leiaf ddau ditr o fewn 0.20 cm3 i鈥檞 gilydd.
Rydyn ni鈥檔 cofnodi canlyniadau titradu mewn tabl fel hyn.
Titradiad | Bras | 1 | 2 | 3 |
Cyfaint terfynol (cm3) | 26.80 | 24.60 | 24.50 | 25.00 |
Cyfaint cychwynnol (cm3) | 1.00 | 0.00 | 0.40 | 0.20 |
Titr (cm3) | 25.80 | 24.60 | 24.10 | 24.80 |
Titradiad | Cyfaint terfynol (cm3) |
---|---|
Bras | 26.80 |
1 | 24.60 |
2 | 24.50 |
3 | 25.00 |
Titradiad | Cyfaint cychwynnol (cm3) |
---|---|
Bras | 1.00 |
1 | 0.00 |
2 | 0.40 |
3 | 0.20 |
Titradiad | Titr (cm3) |
---|---|
Bras | 25.80 |
1 | 24.60 |
2 | 24.10 |
3 | 24.80 |
Galli di anwybyddu鈥檙 canlyniad titradu cyntaf (bras). Mae canlyniadau titradiadau un a thri o fewn 0.20 cm3 i鈥檞 gilydd, ond mae canlyniad titradiad dau yn rhy isel. Byddet ti鈥檔 cyfrifo titr cymedrig titradiadau un a thri, ac yn anwybyddu titradiad dau:
Titr cymedrig = (24.60 + 24.80) 梅 2 = 49.40 梅 2 = 24.70 cm3