Dyfodiad y ffilmiau sain
Yn 1927 roedd 60 miliwn o Americanwyr, ar gyfartaledd, yn mynd i'r sinema yn wythnosol. Cynyddodd hyn i 110 miliwn erbyn 1929.
Digwyddodd y cynnydd yma yn rhannol oherwydd datblygiad y ffilmiau sain yn 1927, gydag Al Jolson yn The Jazz Singer (1927) yn dechrau cyfnod y talkies, ond hefyd oherwydd llwyddiant Hollywood ar y pryd a oedd yn cynhyrchu 500 o ffilmiau'r flwyddyn.
Roedd y 1920au hefyd yn gyfnod y cart诺n, gyda Felix the Cat (1925) a Mickey Mouse (1928) yn ennill bri ac yn boblogaidd iawn ymysg pobl o bob oedran.
Cafodd gwobrau'r Oscars eu sefydlu yn 1929, i anrhydeddu s锚r y ffilmiau.
Ond nid oedd pob Americanwr yn hapus 芒'r sinem芒u newydd.
Cod Hays
Cafodd Cod Hays ei lunio yn 1930 gan Will H Hays. Yn unol 芒'r cod yma cafodd golygfeydd o bobl noeth a dawnsio rhywiol eu gwahardd, nid oedd cusan yn cael para am fwy na saith metr o ffilm, nid oedd godineb (adultery) i gael ei bortreadu mewn golau da, nid oedd offeiriaid i gael eu portreadu fel ffyliaid, ac roedd yn rhaid i ffilmiau gondemnio lladd.
Roedd rhai, yn enwedig pobl grefyddol, yn poeni'n fawr am ddiffyg moesoldeb a dylanwad y ffilmiau ar y bobl ifanc.