大象传媒

Adloniant poblogaiddCerddoriaeth a diwylliant poblogaidd: 1920au

Bu cyfnod o newid mawr yn niwylliant a chymdeithas America rhwng 1910 a 1929 yn bennaf oherwydd poblogrwydd y sinema, ffilmiau di-sain, talkies ac effaith cerddoriaeth jazz.

Part of HanesUDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929

Datblygiad cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd yn ystod y 1920au

Roedd rhai'n cyfeirio at y 1920au fel y . Ar y pryd, roedd busnesau'n llwyddo, roedd llawer o Americanwyr yn cael blas ar y ffordd newydd gyflym o fyw. Daeth cerddoriaeth gyfoes yn boblogaidd yn sgil y cyfryngau (y radio, recordiau a ffilmiau). Roedd gan bobl fwy o arian i'w wario a mwy o amser i wrando ar gerddoriaeth y cyfnod.

Datblygiad ac effaith cerddoriaeth jazz

Daeth jazz yn wreiddiol o daleithiau de UDA, lle roedd cerddoriaeth blues a ragtime y bobl ddu wedi datblygu. Roedd y bobl ifanc wedi cael digon o hen ddawnsiau eu rhieni, fel y waltz.

Ffotograff o Bessie Smith
Image caption,
Bessie Smith

Roedd jazz yn gerddoriaeth llawer mwy rhythmig a rhywiol, ac yn hawdd dawnsio iddi. Arweiniodd hyn at bobl ifanc yn ysmygu, yfed, ac ymddwyn yn anweddus yn 么l rhai. Roedd myfyrwyr colegau, yn enwedig, yn barod i herio gwerthoedd ac ymddygiad eu rhieni.

Daeth nifer o'r cerddorion du yn enwog iawn, gan gynnwys Louis Armstrong a Bessie Smith, 'Ymerodres y Blues'. Ond roedd hiliaeth o hyd yn broblem fawr. Pan gafodd Bessie Smith ddamwain car ddifrifol yn 1937, cafodd ei chludo i ysbyty a oedd ar gyfer pobl wyn yn unig. Gwrthododd yr ysbyty roi triniaeth iddi am ei bod hi'n groenddu a bu Bessie Smith farw.

Effaith y radio a'r gramoffon

Gellid dadlau mai gwrando ar y radio oedd y math mwyaf poblogaidd o adloniant. Roedd masgynhyrchu, y cynnydd mewn trydan a hurbwrcasu, yn golygu bod gan tua 50 miliwn o bobl, sef 40 y cant o'r boblogaeth, set radio erbyn diwedd y 1920au.

  • Gan nad oedd pawb yn gallu darllen, fe ddaeth y radio'n ddull pwysig iawn o roi newyddion a gwybodaeth i bobl.
  • Yn ogystal, wrth i boblogrwydd jazz gynyddu drwy'r amser, prynodd pobl setiau radio, recordiau a gramoffon er mwyn cael clywed jazz ar unrhyw adeg.
  • Roedd pobl hefyd yn gallu gwrando ar eu hoff d卯m chwaraeon yn enwedig os nad oedd yn bosib iddyn nhw deithio i gyrraedd y g锚m, neu os nad oedden nhw'n gallu fforddio'r gost.
  • Roedd y radio wedi gallu tyfu a llwyddo oherwydd bod cwmn茂au yn talu i hysbysebu eu cynnyrch trwy'r cyfrwng.

Dawnsio a diwylliant y clybiau yfed

Daeth dawnsiau llawer mwy beiddgar yn boblogaidd wedi cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.

  • Deilliodd y rhain o'r dawnsio swing a ddatblygodd yn sgil cerddoriaeth jazz, ac felly roedd dylanwad mawr gan bobl dduon.
  • Daeth dawnsiau fel y Charleston a'r Black Bottom yn boblogaidd iawn gyda'r bobl ifanc.
  • Oherwydd bod llawer o'r dawnsiau newydd yma'n rhywiol iawn eu natur, cafodd rhieni eu dychryn gan frwdfrydedd eu plant i'w dawnsio.
  • Daeth y Lindy Hop hefyd yn ddawns boblogaidd 鈥 roedd hon yn anrhydeddu Charles Lindbergh am groesi Cefnfor Iwerydd mewn awyren yn 1927.
  • Cafodd jazz ei wahardd o nifer o ddinasoedd, er enghraifft Efrog Newydd a Detroit. Felly symudodd y perfformiadau i'r clybiau yfed speakeasies, gan wneud i'r ifanc wrthryfela hyd yn oed yn fwy.