Mesur cyfraddau adweithiau
Gallwn ni ganfod cyfradd adwaith drwy fesur faint o鈥檙 cynnyrchSylwedd sy鈥檔 cael ei ffurfio mewn adwaith cemegol. sy鈥檔 ffurfio mewn cyfnod penodol. Rydyn ni鈥檔 aml yn mesur 尘脿蝉Faint o fater sydd mewn gwrthrych. Rydyn ni鈥檔 mesur 尘脿蝉 mewn gramau (g). cynnyrch solid mewn gramau, ac yn aml yn mesur cyfaintMae cyfaint si芒p tri dimensiwn yn dangos faint o le neu ofod sydd ynddo, ee cyfaint diod mewn can ydy 330 ml. cynnyrch nwyol mewn cm3.
Mae鈥檙 cyfnod rydyn ni鈥檔 ei ddewis yn gallu dibynnu ar gyfradd yr adwaith. Er enghraifft, gallwn ni ddewis cyfnod o eiliadau ar gyfer adwaith cyflym neu gyfnod o funudau ar gyfer adwaith araf.
Rydyn ni鈥檔 aml yn ysgrifennu unedau cyfradd adwaith fel:
- g/s neu g/mun
- cm3/s neu cm3/mun
Mae tri phrif ddull o fesur cyfradd:
- mesur cyfaint y nwy mae adwaith yn ei ryddhau dros amser
- mesur y golled 尘脿蝉 dros amser o adwaith sy鈥檔 cynhyrchu nwy
- mesur faint o olau sy鈥檔 mynd drwy gymysgedd adwaith (wrth i waddod ffurfio) dros amser - gallwn ni wneud hyn drwy edrych ar y cymysgedd neu drwy ddefnyddio synhwyrydd golau a chofnodydd data