大象传媒

Cyfraddau adweithiauMesur cyfradd wrth gynhyrchu gwaddod

Mae cyflymder adweithiau cemegol yn amrywio. Mae cyfradd adwaith yn mesur faint o gynnyrch sy'n cael ei wneud mewn amser penodol. Er mwyn i adweithiau ddigwydd, rhaid i ronynnau'r adweithyddion wrthdaro.

Part of CemegCyfradd newid cemegol

Mesur cyfradd wrth gynhyrchu gwaddod

Mae鈥檙 cyfarpar sydd ei angen yn dibynnu ar y cyfarpar sydd ar gael.

Archwilio

Gallwn ni fesur y gyfradd drwy roi cynhwysydd yr adwaith ar ben 鈥榅鈥 du cyn ychwanegu鈥檙 cemegion at ei gilydd (mae enghraifft yn y diagram isod). Drwy fesur yr amser tan nad wyt ti鈥檔 gallu gweld yr X oherwydd bod y gwaddod wedi ffurfio, galli di gyfrifo鈥檙 gyfradd gan ddefnyddio鈥檙 hafaliad.

Cyfradd = 1 梅 (amser mae鈥檔 ei gymryd i鈥檙 X ddiflannu)

Croes wedi'i lluniadu ar bapur, a fflasg gonigol ar y groes yn cynnwys hydoddiant sodiwm thiosylffad. Ar 么l ychwanegu asid gwanedig, amseru pa mor hir mae'n ei gymryd i'r groes ddiflannu.

Defnyddio synhwyrydd golau

Gallwn ni fesur yn uniongyrchol faint o olau sy鈥檔 mynd drwy鈥檙 adwaith gan ddefnyddio synhwyrydd golau a chofnodydd data. Yna, gallwn ni gyfrifo鈥檙 gyfradd drwy ddefnyddio鈥檙 synhwyrydd golau i ganfod pa mor hir mae鈥檔 ei gymryd i lefel y golau stopio lleihau.

Cyfarpar i fesur cyfradd ffurfio gwaddod - yn dangos synhwyrydd golau o dan fflasg gonigol 芒 tharian golau o'i chwmpas.

Manteision archwilio/anfanteision synhwyrydd golau:

  • mae synwyryddion golau鈥檔 fwy drud ac felly efallai na fydd un ar gael yn rhwydd
  • mae鈥檔 bosibl y gallai golau o鈥檙 ystafell ymyrryd 芒 chanlyniadau鈥檙 synhwyrydd golau

Manteision synhwyrydd golau/anfanteision archwilio:

  • mae synwyryddion golau鈥檔 gallu darparu data鈥檙 adwaith cyfan, felly gallwn ni gyfrifo cyfradd yr adwaith ar unrhyw adeg yn ystod yr adwaith
  • gallwn ni fesur cyfradd yr adwaith yn fwy manwl gywir
Graff arddwysedd golau yn erbyn amser ar gyfer arbrawf cyfradd sy'n defnyddio 4 hydoddiant a synhwyrydd golau. Hydoddiant A sydd 芒'r graddiant mwyaf serth felly hwn sydd 芒'r gyfradd adwaith gyflymaf.
Figure caption,
Mae鈥檙 graff uchod yn dangos arddwysedd golau yn erbyn amser ar gyfer arbrawf cyfradd sy鈥檔 defnyddio synhwyrydd golau. Hydoddiant A sydd 芒鈥檙 graddiant mwyaf serth, sy鈥檔 golygu mai hwn sydd 芒鈥檙 gyfradd adwaith gyflymaf.