Fflworideiddio
Fflworideiddio yw ychwanegu symiau bach o fflworid at dd诺r yfed i atal pydredd dannedd. Mae hyn yn digwydd mewn rhai ardaloedd yn y Deyrnas Unedig.
Mae pydredd dannedd yn digwydd pan mae鈥檙 enamel ar arwyneb allanol dannedd yn adweithio ag asid ac yn hydoddi. Mae鈥檙 asid yn gallu bodoli鈥檔 naturiol mewn bwyd neu gael ei wneud gan facteria sy鈥檔 byw yn ein cegau o鈥檙 siwgr rydyn ni鈥檔 ei fwyta (asid plac). Enw鈥檙 broses o hydoddi鈥檙 enamel yw dadfwyneiddio. Pan mae鈥檙 asidau鈥檔 cael eu niwtralu gan boer neu fel arall, mae鈥檙 mwynau鈥檔 mynd yn 么l i mewn i鈥檙 enamel 鈥 ailfwyneiddio.
Mae fflworid yn helpu i atal pydredd dannedd yn y ffyrdd canlynol.
- Mae'n newid adeiledd yr enamel sy鈥檔 datblygu mewn plant ifanc fel ei fod yn gallu gwrthsefyll adweithio ag asid.
- Mae lefelau fflworid isel yn cynyddu cyfradd ailfwyneiddio.
- Mae'n lleihau gallu bacteria plac i ffurfio asid.
Mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod fflworid yn fuddiol, ond mae rhai rhesymau pam mae pobl yn meddwl na ddylen ni ei ychwanegu at ein d诺r.
- Mae lefelau fflworid uchel yn gallu achosi fflworosis deintyddol, cyflwr sy鈥檔 achosi i ddarnau gwyn ffurfio ar arwyneb enamel. Mae cymeriant uchel o fflworid hefyd yn gallu achosi problemau iechyd fel canser y stumog ac anffrwythlondeb.
- Mae tua 90 y cant o fathau o bast dannedd a hylif golchi ceg yn cynnwys crynodiadau fflworid uchel, felly mae rhai pobl yn dweud nad oes angen d诺r wedi鈥檌 fflworideiddio. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod fflworideiddio d诺r yn dal i ostwng lefelau pydredd dannedd ymysg plant, er nad ydyn ni wedi darganfod pam.
- Mae rhai pobl yn credu na ddylen ni ychwanegu fflworid at dd诺r gan eu bod nhw鈥檔 gweld hynny fel math o driniaeth feddygol dorfol sy鈥檔 cael ei rhoi heb ganiat芒d. Fodd bynnag, mae pawb yn derbyn bod angen ychwanegu clorin at ein d诺r er mwyn diogelwch y cyhoedd.
Cofia fod angen ystyried y wybodaeth sydd wedi鈥檌 dangos ar y graff yn ofalus iawn, oherwydd weithiau efallai na fydd digon o wybodaeth i ffurfio casgliad cryf. Dyma rai rhesymau posibl dros hyn.
- Efallai y bydd y wybodaeth yn canolbwyntio ar un gr诺p penodol o bobl (hynny yw, gr诺p oed, rhyw neu ethnigrwydd penodol).
- Efallai y bydd y wybodaeth yn canolbwyntio ar gr诺p bach o bobl (hynny yw, pobl o un neu ddwy ddinas yn unig yn hytrach na鈥檙 wlad gyfan).
Yn ystod y 1980au, bu arbrawf i fflworideiddio d诺r yfed ar draws gwahanol ardaloedd yn y DU. Yn 1989, daeth yr arbrawf i ben ar Ynys M么n. Mae'r graff bar yn dangos cymhariaeth o bydredd dannedd ymysg plant pum mlwydd oed o Ynys M么n gyda phlant pum mlwydd oed o'r tir mawr yng Ngwynedd yn ystod y cyfnod 1987-1993.