Distyllu
Gallwn ni ddefnyddio distyllu i wahanu dau hylif sydd wedi eu cymysgu鈥檔 llwyr 芒鈥檌 gilydd i wneud hydoddiant.
Pan mae dau hylif yn gallu cymysgu鈥檔 llawn 芒鈥檌 gilydd, rydyn ni鈥檔 eu galw nhw鈥檔 hylifau cymysgadwy. Os yw hylifau鈥檔 ffurfio haenau sydd ddim yn cymysgu 芒鈥檌 gilydd, rydyn ni鈥檔 eu galw nhw鈥檔 hylifau anghymysgadwy.
Er mwyn gallu distyllu, mae angen i鈥檙 hylifau fod 芒 berwbwyntiau gwahanol iawn. Mae ethanol a d诺r yn enghraifft dda. Mae鈥檙 rhain yn ddau hylif di-liw clir sy鈥檔 edrych bron yn union yr un fath. Fodd bynnag, mae ethanol yn berwi ar dymheredd 78掳C ac mae d诺r yn berwi ar dymheredd 100掳C. Felly pan mae鈥檙 cymysgedd yn cyrraedd 78掳C mae鈥檙 ethanol yn berwi ac yn teithio i鈥檙 tiwb berwi fel nwy. Wedyn mae鈥檔 cyddwyso fel ethanol crynodedig iawn (nid ethanol pur, oherwydd byddai rhywfaint o鈥檙 d诺r yn y cymysgedd yn dal i anweddu) ac yn cael ei gasglu (yr hylif sy鈥檔 cael ei gasglu ar ddiwedd y distyllu yw鈥檙 distyllad). Yna, d诺r fydd y rhan fwyaf o鈥檙 hylif sydd ar 么l yn y fflasg gonigol. I gael d诺r pur, byddai鈥檔 rhaid newid y fflasg dderbyn pan mae鈥檙 tymheredd ar y thermomedr yn cyrraedd 100掳C.