Effaith crynodiad a gwasgedd ar gyfradd
Gallwn ni newid cyfradd adwaith cemegol drwy newid crynodiad adweithydd mewn hydoddiant, neu gwasgeddGrym sy鈥檔 cael ei roi dros arwynebedd. Y mwyaf yw鈥檙 gwasgedd, y mwyaf yw鈥檙 grym ar arwynebedd penodol. adweithydd nwyol.
Os ydyn ni鈥檔 cynyddu鈥檙 crynodiad neu鈥檙 gwasgedd:
- mae mwy o ronynnau o鈥檙 adweithyddion i bob uned cyfaint (hynny yw, mae llai o le rhwng y gronynnau o鈥檙 adweithyddion)
- mae mwy o siawns y bydd y gronynnau鈥檔 gwrthdaro, sy鈥檔 arwain at fwy o wrthdrawiadau llwyddiannus bob eiliad
- mae cyfradd yr adwaith yn cynyddu
Dyma sut mae llinell graff adwaith ar grynodiad (mewn hydoddiant) neu wasgedd (mewn nwy) uwch yn wahanol i linell yr un adwaith ar grynodiad neu wasgedd is:
- 尘补别鈥檙 graddiantMewn graff, y graddiant ydy goledd y llinell. Po fwyaf ydy鈥檙 graddiant, po fwyaf fydd cyfradd y newid. yn fwy serth i ddechrau
- mae鈥檔 mynd yn llorweddol yn gynt
Mae hyn yn dangos bod cyfradd yr adwaith yn fwy ar y crynodiad neu wasgedd uwch.