大象传媒

Ffactorau sy鈥檔 effeithio ar gyfradd adwaithEffaith catalyddion

Mae cyfraddau adweithiau cemegol yn cynyddu neu'n lleihau gan ddibynnu ar ffactorau fel tymheredd, gwasgedd a golau. Mae catalydd yn newid cyfradd adwaith heb iddo ei hun newid yn ystod yr adwaith.

Part of CemegCyfradd newid cemegol

Effaith catalyddion

Gallwn ni gynyddu cyfradd adwaith drwy ychwanegu addas.

Dim ond swm bach iawn o gatalydd sydd ei angen i gynyddu cyfradd adwaith rhwng symiau mawr o adweithyddion.

Mae catalydd yn benodol i adwaith penodol:

  • mae gwahanol gatalyddion yn catalyddu gwahanol adweithiau
  • does dim catalydd addas i bob adwaith
Graff yn dangos pa mor effeithiol yw Mangan卯s (IV) ocsid, Copr (II) ocsid a Sinc ocsid fel catalyddion ar gyfer dadelfennu hydrogen perocsid.
Figure caption,
Graff yn dangos pa mor effeithiol yw gwahanol ocsidau metel fel catalyddion ar gyfer dadelfennu hydrogen perocsid

Mae鈥檙 tabl hwn yn crynhoi rhai catalyddion cyffredin sy鈥檔 cael eu defnyddio mewn diwydiant a鈥檙 adweithiau maen nhw鈥檔 eu catalyddu.

CatalyddAdwaith mae鈥檔 ei gatalyddu
HaearnGwneud amonia o nitrogen a hydrogen
PlatinwmGwneud asid nitrig o amonia
Fanadiwm(V) ocsidGwneud asid sylffwrig
CatalyddHaearn
Adwaith mae鈥檔 ei gatalydduGwneud amonia o nitrogen a hydrogen
CatalyddPlatinwm
Adwaith mae鈥檔 ei gatalydduGwneud asid nitrig o amonia
CatalyddFanadiwm(V) ocsid
Adwaith mae鈥檔 ei gatalydduGwneud asid sylffwrig

More guides on this topic