Ensymau [TGAU Cemeg yn unig]
Catalyddion biolegol yw ensymau, ac maen nhw鈥檔 cael eu cynhyrchu gan organebau byw i gyflymu鈥檙 adweithiau biocemegolProsesau cemegol sy'n digwydd mewn organebau byw. sy鈥檔 hanfodol er mwyn iddynt oroesi.
Heb ddefnyddio catalyddion, byddai鈥檙 prosesau biocemegol hyn (fel resbiradaethAdwaith cemegol sy鈥檔 digwydd mewn celloedd byw, gan ddefnyddio glwcos ac ocsigen i ryddhau'r egni sydd ei angen ar organebau i fyw. Carbon deuocsid a d诺r yw sgil gynhyrchion resbiradaeth. a treuliadTorri moleciwlau bwyd mawr, anhydawdd yn foleciwlau bach, hydawdd.) yn digwydd yn rhy araf a fyddai鈥檙 organeb ddim yn goroesi.
Mae angen gwahanol amodau ar wahanol ensymau i weithio ar eu hactifedd uchaf (sef yr amodau optimaidd), ond mae angen tymheredd agos at 37掳C ar y rhan fwyaf ohonynt (tymheredd y corff dynol). Os aiff y tymheredd yn uwch na鈥檙 tymheredd optimaidd, mae鈥檙 ensym yn gallu cael ei ddadnatureiddio ac ni fydd yn gweithio鈥檔 iawn.
Mae ensymau鈥檔 aml yn fwy effeithiol nag unrhyw gatalyddion anfiolegol eraill, felly rydyn ni鈥檔 eu defnyddio nhw鈥檔 fasnachol i gyflymu nifer o wahanol adweithiau. Mae hyn yn cynnwys eu defnyddio nhw:
- mewn powdr golchi
- i fragu (defnyddio burum i eplesu siwgr i ffurfio ethanol)
- i wneud caws