ý

Y gylchred carbon

Mae carbon yn cael ei drosglwyddo o’r atmosffer, fel carbon deuocsid, i bethau byw. Yna, mae’n cael ei drosglwyddo o un i’r nesaf mewn cymhleth, ac yn cael ei ddychwelyd i’r atmosffer fel carbon deuocsid unwaith eto. Yr enw ar y broses hon ydy’r gylchred carbon.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 4, Carbon yn mynd i mewn i'r atmosffer ar ffurf carbon deuocsid o resbiradaeth a hylosgiad, Cam un y gylchred carbon Mae carbon yn mynd i mewn i'r atmosffer fel carbon deuocsid trwy resbiradaeth a hylosgiad.

Tynnu carbon deuocsid o'r atmosffer

Mae planhigion yn defnyddio carbon deuocsid o'r atmosffer ar gyfer . Mae'r carbon yn dod yn rhan o foleciwlau cymhleth yn y planhigion, megis proteinau, brasterau a charbohydradau.

Trosglwyddo carbon o un organeb i'r nesaf

Mae anifeiliaid yn cael eu carbon drwy fwyta planhigion neu anifeiliaid eraill.

Dychwelyd carbon deuocsid i'r atmosffer

Mae carbon deuocsid yn cael ei ryddhau i’r atmosffer trwy gan anifeiliaid, planhigion a . Mae hefyd yn cael ei ryddhau trwy pren a thanwydd ffosil (megis glo, olew a nwy naturiol). Mae’r defnydd o danwydd ffosil yn cynyddu lefel y carbon deuocsid yn yr atmosffer yn raddol.

Mae neu bydredd yn rhyddhau carbon deuocsid hefyd. Mae’r broses hon yn digwydd yn gyflymach mewn amodau cynnes, llaith gyda digon o ocsigen gan ei fod yn cynnwys micro-organebau. Mae pydredd yn gallu bod yn araf iawn mewn amodau oer, sych a lle does dim llawer o ocsigen.