Cadwynau bwyd
Mae cadwyn fwydDilyniant (sy’n cael ei ddangos fel diagram fel arfer) o’r berthynas fwydo rhwng organebau, sy’n dangos pwy sy’n bwyta beth a symudiad egni drwy lefelau troffig. yn dangos beth sy’n bwyta beth mewn cynefinLle mae planhigion, anifeiliaid a micro-organebau yn byw. penodol. Mae’n dangos llif egni a deunyddiau o un organeb i’r nesaf, gan ddechrau gyda cynhyrchyddOrganeb sy'n gwneud ei bwyd ei hun drwy drawsnewid egni golau yn egni cemegol (ffotosynthesis)..
Planhigion gwyrdd sy’n cyflawni ffotosynthesis yw’r cynhyrchwyr. Maen nhw’n defnyddio egni golau o’r haul i drawsnewid carbon deuocsid o’r aer, a dŵr o’r pridd, yn glwcos ac ocsigen. Mae organebau eraill yn gallu bwyta’r glwcos hwn ac yna ei ddefnyddio ar gyfer resbiradaethAdwaith cemegol sy’n digwydd mewn celloedd byw, gan ddefnyddio glwcos ac ocsigen i ryddhau'r egni sydd ei angen ar organebau i fyw. Carbon deuocsid a dŵr yw sgil gynhyrchion resbiradaeth., sy’n rhyddhau’r egni sydd wedi’i storio yn y glwcos. Yna, byddant yn gallu defnyddio’r egni hwn ar gyfer eu prosesau bywyd.
Yn yr enghraifft, mae hadau gwair yn cael eu bwyta gan lygod y dŵr, ac mae llygod y dŵr yn cael eu bwyta gan dylluanod gwynion.
Ѳ’r saethau rhwng pob organeb yn y gadwyn bob amser yn pwyntio i gyfeiriad y llif egni o’r bwyd i’r ymborthwr.
Safle organeb mewn cadwyn fwyd yw ei lefel droffigSafle organeb mewn cadwyn fwyd, gweoedd bwyd neu byramid.. Yn yr enghraifft uchod:
- ’r cynhyrchydd (hadau gwair) ar y lefel droffig gyntaf
- ’r ysydd cynraddYr enw sy’n cael ei roi ar organeb sy’n bwyta cynhyrchydd. Llysysydd. (llygoden y dŵr) ar yr ail lefel droffig
- ’r ysydd eilaiddOrganeb sy’n cael ei egni trwy fwyta’r ysydd cynradd. (tylluan) ar y drydedd lefel droffig
Dydy cadwynau bwyd ddim yn aml yn hirach na phedair lefel droffig, oherwydd mae egni’n cael ei ddefnyddio neu ei golli ar bob lefel.
Organeb | Sut mae’n cael ei hegni |
Cynhyrchydd | Defnyddio egni golau i greu bwyd drwy ffotosynthesis |
Ysydd cynradd | Bwyta cynhyrchwyr, llysysyddion yw’r rhan fwyaf ohonynt |
Llysysydd | Bwyta planhigion yn unig |
Ysydd eilaidd | Bwyta ysyddion cynradd, mwyafrif yn gigysyddion |
Cigysydd | Bwyta anifeiliaid eraill yn unig |
Ysydd trydyddol | Bwyta ysyddion eilaidd |
Hollysydd | Ysyddion sy’n bwyta anifeiliaid a phlanhigion, ac felly’n gallu bod ar fwy nag un lefel droffig mewn cadwyn fwyd |
Dadelfennydd | Bwydo ar organebau marw ac organebau sy’n pydru, ac ar y rhannau o blanhigion ac anifeiliaid sydd heb eu treulio mewn ymgarthion |
Organeb | Cynhyrchydd |
---|---|
Sut mae’n cael ei hegni | Defnyddio egni golau i greu bwyd drwy ffotosynthesis |
Organeb | Ysydd cynradd |
---|---|
Sut mae’n cael ei hegni | Bwyta cynhyrchwyr, llysysyddion yw’r rhan fwyaf ohonynt |
Organeb | Llysysydd |
---|---|
Sut mae’n cael ei hegni | Bwyta planhigion yn unig |
Organeb | Ysydd eilaidd |
---|---|
Sut mae’n cael ei hegni | Bwyta ysyddion cynradd, mwyafrif yn gigysyddion |
Organeb | Cigysydd |
---|---|
Sut mae’n cael ei hegni | Bwyta anifeiliaid eraill yn unig |
Organeb | Ysydd trydyddol |
---|---|
Sut mae’n cael ei hegni | Bwyta ysyddion eilaidd |
Organeb | Hollysydd |
---|---|
Sut mae’n cael ei hegni | Ysyddion sy’n bwyta anifeiliaid a phlanhigion, ac felly’n gallu bod ar fwy nag un lefel droffig mewn cadwyn fwyd |
Organeb | Dadelfennydd |
---|---|
Sut mae’n cael ei hegni | Bwydo ar organebau marw ac organebau sy’n pydru, ac ar y rhannau o blanhigion ac anifeiliaid sydd heb eu treulio mewn ymgarthion |
Question
Mae llygod y dŵr yn cael eu hegni o fwyta gwair, ond maen nhw hefyd yn bwyta pryfed. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n ysyddion cynradd ac yn ysyddion eilaidd. Pa derm o’r tabl uchod allet ti ei ddefnyddio i ddisgrifio llygod y dŵr?
Hollysydd.