Y gylchred nitrogen
Mae cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. nitrogen mewn celloedd yn cynnwys proteinau. Mae nitrogen o’r aer yn cael ei drawsnewid yn ïDzGronyn sy’n cael ei wefru’n drydanol, sy’n cael ei ffurfio pan mae moleciwl neu atom yn ennill neu'n colli electron(au). hydawdd y mae gwreiddiau planhigion yn gallu eu hamsugno. Mae’n ffurfio rhan o gyfansoddion nitrogen yn y planhigion, ac yna’n cael ei drosglwyddo o un organebBod byw yw organeb - planhigyn, anifail, ffwng neu bacteriwm. i'r nesaf. Mae'n cael ei ddychwelyd i’r atmosffer fel nwy nitrogen. Dyma'r gylchred nitrogen.
1 of 5
Cam un – sefydlogiad
Mae tua 78 y cant o’r aer yn nwy nitrogen. Fodd bynnag, mae nitrogen yn rhy anadweithiol i gael ei ddefnyddio’n uniongyrchol gan blanhigion i wneud protein. Rhaid iddo gael ei drawsnewid yn ïDzԲ hydawdd, megis nitradY cemegyn y mae planhigion yn ei amsugno o’r pridd er mwyn cynhyrchu eu protein.. Mae bacteria sy’n sefydlogi nitrogen Y bacteria sydd i’w cael yn y pridd neu yng ngwreiddgnepynnau rhai planhigion fel pys a meillion sy’n trawsnewid nwy nitrogen yn nitrad. mewn gwreidd gnepynnauChwydd bychan ar wreiddiau planhigion fel pys, ffa a meillion, sy’n cynnwys bacteria sy’n dal nitrogen. a bacteria sy’n byw yn rhydd yn y pridd yn gallu gwneud hyn. Mae mellt yn gallu trawsnewid nwy nitrogen yn nitradau hefyd.
Cam dau – amsugno i mewn i’r gwreiddiau a’u hymgorffori i mewn i blanhigion
Mae planhigion yn amsugno nitradau o’r pridd ac yn defnyddio’r rhain i wneud proteinau.
Cam tri – symud ar hyd cadwynau bwyd ac ysgarthiad
Pan mae anifail yn bwyta planhigyn, mae nitrogen o broteinau’r planhigyn yn troi’n broteinau yn yr anifail. Mae ysgarthu wreaSylwedd gwastraff nitrogenaidd sy’n deillio o ddadelfennu proteinau. Mae’n cael ei ysgarthu mewn troeth/wrin. (mewn troeth anifeiliaid) yn rhyddhau cyfansoddion nitrogenaidd i'r pridd. Mae’r bacteria yn y pridd yn gwneud ensym o’r enw wreasEnsym sy'n cael ei wneud gan facteria sy'n trawsnewid wrea o'r pridd yn amonia a charbon deuocsid. sy'n trawsnewid yr wrea hwn yn amoniaMae amonia yn nwy ar dymheredd ystafell, ond mae’n hydoddi’n rhwydd mewn dŵr i ffurfio hydoddiant alcalïaidd.. Mae bacteria nitreiddioY bacteria sy’n cynhyrchu nitrad sy’n cael ei ryddhau i bridd. yn trawsnewid yr amonia yn nitradau, ac mae planhigion yn gallu amsugno'r rhain.
Cam pedwar – anifeiliaid yn marw
Mae dadelfennyddOrganeb sy’n bwyta organebau marw neu tail anifeiliaid, ac yn eu hymddatod yn ddeunyddiau syml. yn dadelfennu'r protein yng nghyrff marw anifeiliaid a phlanhigion, gan ei drawsnewid yn amonia. Mae bacteria nitreiddio yna'n trawsnewid yr amonia yn nitraid ac yna'n nitradau fel bod planhigion yn gallu eu hamsugno nhw eto.
Cam pump – rhyddhau i’r atmosffer
Mae bacteria dadnitreiddioY bacteria sy’n trawsnewid nitradau yn y pridd i nwy nitrogen sy’n cael ei ryddhau i’r atmosffer. yn y pridd yn torri i lawr nitradau ac yn dychwelyd nwy nitrogen i’r aer. Mae hyn yn digwydd mewn amodau anaerobigHeb ocsigen.. Mae ffermwyr yn ceisio atal dadnitreiddiadY cam yn y cylch nitrogen lle mae bacteria dadnitreiddio yn troi nitradau yn y pridd yn nwy nitrogen, sy’n cael ei ryddhau i’r atmosffer. oherwydd mae planhigion yn tyfu orau os oes digonedd o nitradau yn y pridd iddynt eu defnyddio i wneud y proteinau sydd eu hangen arnynt i dyfu.
Mae ffermwyr yn gwneud y canlynol er mwyn atal dadnitreiddiad.
- Aredig y pridd yn rheolaidd i annog amodau aerobig (cael ocsigen i mewn).
- Draenio unrhyw fannau sydd dan ddŵr.
- Cylchdroi cnydau drwy blannu planhigyn codlysolPys, ffa neu feillion sydd â gwreiddgnepynnau'n cynnwys bacteria sefydlogi nitrogen ac sydd felly'n gallu byw mewn pridd heb lawer o nitradau (anffrwythlon). bob rhai blynyddoedd. Mae gan y rhain wreiddgnepynnau sy'n llawn bacteria sefydlogi nitrogen sy'n gallu trawsnewid nwy nitrogen yn uniongyrchol o'r aer i ffurfio cyfansoddion nitrogenaidd i'r planhigyn eu defnyddio, sy'n cynyddu ffrwythlondeb y pridd.
Gwylia'r fideo hwn sy'n dangos ffordd o gadw pridd yn ffrwythlon (cynnwys Saesneg).