大象传媒

Meddwl yn feirniadol a datrys problemauDibynadwy

Gall gwahanol dechnegau ddatgelu pa wybodaeth i'w defnyddio wrth ddatrys problemau. Mae鈥檔 bosibl defnyddio meini prawf hygrededd er mwyn penderfynu pa mor gredadwy yw ffynonellau.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Dibynadwy

Wrth benderfynu a yw鈥檙 ffynhonnell yn ddibynadwy, bydd angen ystyried y canlynol:

  • arbenigedd

Didueddrwydd

Mae didueddrwydd yn golygu gofyn cwestiynau penodol.

  • A yw ffynhonnell yn ochri gyda rhywun penodol?
  • A oes rheswm neu gymhelliad i wyrdroi'r gwir, neu geisio perswadio pobl i feddwl mewn ffordd arbennig?

Os 'nac ydy' a 'nac oes' yw'r atebion i'r cwestiynau hyn, yna mae hi'n debygol o fod yn ffynhonnell ddiduedd.

Question

Sut fyddet ti鈥檔 canfod a yw sefydliad yn ddiduedd?

Buddiant breintiedig

Ffordd arall o weld pa mor ddibynadwy yw ffynhonnell yw drwy benderfynu a oes ganddi fuddiant breintiedig mewn rhywbeth.

Hynny yw, a yw鈥檙 ffynhonnell yn cael budd o ryw fath drwy ddiogelu neu hyrwyddo鈥檙 diddordeb hwnnw? Mae buddiant breintiedig yn gallu cynnwys:

  • gwneud arian
  • cadw awdurdod
  • datblygu enw da

Tuedd

Gallai tuedd ffynhonnell fod yn seiliedig ar:

  • agwedd unochrog, sy鈥檔 anwybyddu tystiolaeth a fyddai'n gallu gwrth-ddweud barn benodol
  • diffyg safbwynt niwtral cryf
  • peidio 芒 chadw meddwl agored a fuasai'n gallu arwain at

Arbenigedd

Mae dibynadwyedd hefyd yn golygu ystyried arbenigedd ac enw da鈥檙 ffynhonnell.

Wrth benderfynu a yw dogfen yn gredadwy, mae鈥檔 bwysig ffurfio barn yngl欧n ag arbenigedd y person wnaeth ei hysgrifennu. Mae person sy'n meddu ar arbenigedd penodol yn cael ei alw'n awdurdod.

Mae enw da yn bwysig hefyd. Os yw awdur yn cael ei barchu, bydd ganddo enw da. Yn gyffredinol, mae pobl yn gallu dibynnu ar berson sydd ag enw da, ac bydd ganddynt hygrededd.

Enghraifft bywyd go iawn un

Llun agos o bentwr o bapurau newydd yn barod i鈥檞 dosbarthu

Robert Maxwell oedd pennaeth cwmni Mirror Group Newspapers ac roedd ganddo ddiddordeb personol yn y Blaid Lafur yn niwedd y ganrif ddiwethaf. Roedd rhai pobl yn awgrymu byddai darllenwyr papur newydd y Mirror yn fwy tebygol o bleidleisio dros Lafur ar sail y wybodaeth roeddent yn ei darllen - gwybodaeth nad oedd bob amser yn ddiduedd.

Enghraifft bywyd go iawn dau

Llawer o bobl yn dal baneri鈥檙 Undeb Ewropeaidd yn yr awyr

Enghraifft o ffynhonnell ddibynadwy yw erthygl academaidd. Byddai Wicipedia yn enghraifft o ffynhonnell annibynadwy. Er bod Wicipedia yn fan cychwyn da er mwyn cael golwg gyffredinol ar rywbeth, mae angen gwneud yn si诺r fod y ffeithiau鈥檔 gywir drwy edrych ar ffynonellau eraill. Er enghraifft, mae鈥檙 ffeithiau am gystadleuaeth Eurovision Song Contest 2016 wedi ymddangos yn wahanol yn Wicipedia i鈥檙 hyn oedd i鈥檞 weld ar wefan swyddogol yr Eurovision Song Contest. Pa un fyddet ti鈥檔 fwyaf tebygol o鈥檌 gredu?

Cyfoes

Mae鈥檔 bwysig edrych ar ddyddiad y ffynhonnell. Mae gwybodaeth yn gallu dyddio, a gallai hyn olygu ei bod yn anghywir.

Enghraifft bywyd go iawn un

Pan fydd llywodraeth newydd yn cael ei hethol, bydd hi'n aml yn ceisio newid cyfreithiau'r wlad. Bydd hyn yn golygu bod unrhyw ffynonellau sy鈥檔 ymwneud 芒 yn dyddio, ac o ganlyniad byddant bellach yn anghywir.

Mae gwaith ymchwil yn digwydd ar hyd yr adeg, ond hyd yn oed os oes gwybodaeth sy鈥檔 cefnogi mewn project, mae鈥檔 bwysig edrych ar y dyddiad cyhoeddi rhag ofn bod gwybodaeth fwy diweddar ar gael sy鈥檔 gwrth-ddweud yr ymchwil blaenorol.

Enghraifft bywyd go iawn dau

Mae鈥檙 llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau sy鈥檔 nodi faint o unedau o alcohol mae鈥檔 ddiogel i oedolyn eu hyfed. Roedd y cyfanswm ar gyfer dynion yn 21 uned yr wythnos am flynyddoedd, ond yn 2016 cafodd y cyfanswm ei ostwng i 14 uned yr wythnos.

Perthnasol

Mae鈥檔 bwysig ystyried pa mor berthnasol yw鈥檙 ffynhonnell. Bydd y math o wybodaeth sydd ei angen hefyd yn effeithio ar berthnasedd y ffynhonnell.

Enghraifft bywyd go iawn

Os wyt ti angen y newyddion diweddaraf am ddigwyddiad, y ffynonellau gorau fyddai papurau newydd, gwefannau newyddion a rhaglenni newyddion ar y teledu. Fodd bynnag, os wyt ti angen gwybodaeth am effaith hirdymor digwyddiad, efallai byddai cylchgronau, cyfnodolion neu ddyddiaduron yn ffynonellau mwy priodol.

Defnyddiol

Mae angen i鈥檙 ffynhonnell wybodaeth fod yn ddefnyddiol hefyd. Mae angen iddi gynnwys gwybodaeth gredadwy a phriodol sy'n hawdd i'w deall.

Enghraifft bywyd go iawn

Byddai data hanesyddol yn ddefnyddiol wrth wneud ymchwil ar gyfer traethawd, ond efallai na fyddai鈥檔 ddefnyddiol wrth wneud ymchwil i ganfod barn pobl am gyfnod mewn hanes. Efallai hefyd bydd ambell ddogfen yn ymddangos yn berthnasol ar yr olwg gyntaf, ond ar 么l edrych yn fanylach arni yn mynd i gyfeiriad amherthnasol, felly nid yw鈥檙 ddogfen yn ddefnyddiol wedyn.

More guides on this topic