Dylanwadau technolegol
Mae dylanwadau technolegol yn cyfeirio at ddatblygiadau arloesol Dulliau, syniadau neu gynnyrch newydd. ym maes technoleg sy鈥檔 effeithio ar unigolyn, diwydiant a鈥檙 farchnad.
Enghraifft bywyd go iawn
Enghraifft o arloesi dylanwadol ym maes technoleg yn ddiweddar yw awtomeiddioY dechneg o wneud i gyfarpar, proses, neu system weithio鈥檔 awtomatig.. Mae hyn wedi arwain at gyflwyno ceir heb yrwyr.
Gallai鈥檙 datblygiad arloesol hwn arwain at nifer o fanteision, er enghraifft:
- bydd gan bobl fwy o amser i wneud pethau eraill tra maen nhw'n teithio yn y car, ee cysgu neu ddarllen
- bydd llai o ddamweiniau ar y ffyrdd gan fod pob car heb yrrwr yn defnyddio technoleg er mwyn synhwyro ble yn union mae ceir eraill
- bydd pobl yn fwy diogel, oherwydd mae鈥檙 rhan fwyaf o ddamweiniau yn cael eu hachosi gan gamgymeriadau sy鈥檔 cael eu gwneud gan bobl
- ni fydd angen i neb brynu car a thalu am yswiriant oherwydd gallai ceir heb yrwyr fod fel gwasanaeth tacsi
Er hyn, gall datblygiadau technolegol gael rhai canlyniadau negyddol hefyd. Mae pryder wedi ei fynegi yngl欧n 芒鈥檙 canlynol:
- y risg o hacio Cael mynediad heb ganiat芒d at ddata mewn cyfrifiadur. car heb yrrwr
- tywydd gwael a allai effeithio ar allu ceir heb yrwyr i ymateb, ee gallai eira ar y ffordd amharu ar gamer芒u
Hefyd, mae rhai pobl yn dweud eu bod yn mwynhau gyrru car ac nad oes angen ceir heb yrwyr.
Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae datblygiadau technolegol yn cael effaith gadarnhaol iawn mewn cymdeithas.
Question
Pa effaith allai ceir heb yrwyr ei chael ar fusnesau a gwasanaethau eraill?
Mae llawer o bosibiliadau.
Effeithiau cadarnhaol
- Ffyrdd mwy diogel a llai o ddamweiniau. Efallai byddai ysbytai, gyrwyr ambiwlans a pharafeddygon yn canfod eu bod yn ymateb i lai o ddamweiniau ffordd, felly byddai鈥檔 bosibl cyfeirio eu hamser a鈥檜 hadnoddau at feysydd pwysig eraill. Byddai gyrru鈥檔 ddiofal yn perthyn i鈥檙 gorffennol ynghyd 芒 damweiniau lle mae rhywun yn syrthio i gysgu wrth y llyw.
- Byddai llai o dagfeydd traffig. Byddai鈥檔 bosibl rheoli traffig yn fwy effeithiol er mwyn sicrhau nad oes ciwiau ar adegau prysur.
- Gwelliannau o ran effeithlonrwydd tanwydd. Bydd ceir heb yrwyr yn cael eu cynllunio er mwyn gwella effeithlonrwydd tanwydd a lleihau allyriadau carbon.
- Mwy o amser hamdden. Bydd teithwyr yn gallu darllen, ysgrifennu, chwarae gemau, gwylio fideos ac ati i ddifyrru eu hunain. Byddant yn gallu cysgu drwy gydol y daith hefyd.
- Siwrneiau byrrach. Bydd ceir heb yrwyr yn fwy diogel, felly ni fydd angen terfynau cyflymder isel, a bydd teithwyr felly yn treulio llai o amser yn y car. Byddai amseroedd teithio i鈥檙 gwaith yn llai hefyd.
Effeithiau negyddol
- Colli swyddi. Mae鈥檔 bosibl byddai llai o alw am yrwyr tacsi, chauffeurs a gwahanol fathau o gludiant cyhoeddus.
- Effeithiau ariannol ar fusnesau. Efallai byddai modurdai, lleoedd atgyweirio ceir a chaffis ar draffyrdd yn colli busnes, gan na fydd cymaint o angen i bobl gynnal eu ceir, a gan na fydd angen i bobl stopio mor aml wrth wneud siwrnai hir. Efallai bydd angen trawsnewid y farchnad draddodiadol ar gyfer yswiriant ceir, a gallai hynny olygu costau i gwmn茂au yswiriant.
- Damweiniau mwy difrifol. Gallai hyd yn oed m芒n wallau cyfrifiadurol arwain at ddamweiniau difrifol.
- Diweddaru. Byddai angen moderneiddio'r system ffyrdd, er enghraifft addasu goleuadau stryd, arwyddion a systemau rheoli traffig.
- Costau. Y tebyg yw na fydd ceir heb yrwyr yn rhad, ac felly na fydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu eu fforddio.