Dylanwadau gwleidyddol
Penderfyniadau gan y llywodraeth sy鈥檔 effeithio ar amgylchedd penodol yw dylanwadau gwleidyddol. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y llywodraeth, ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol, yn gwneud rheolau a rheoliadau sy鈥檔 dylanwadu ar y ffordd mae pobl yn byw.
Os bydd y llywodraeth yn penderfynu codi cyfradd treth incwm Treth sy鈥檔 cael ei thalu ar enillion., gallai hynny olygu bod gan bobl lai o incwm gwario Arian sydd ar gael i鈥檞 wario a鈥檌 gynilo ar 么l talu trethi.. Mae llai o incwm gwario yn golygu llai o arian i brynu nwyddau a gwasanaethau.
Enghraifft bywyd go iawn
Cynllun ariannol yw鈥檙 Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Dan y cynllun hwn mae pobl ifanc rhwng 16 a 19 oed yn derbyn swm penodol o arian bob pythefnos i gefnogi eu haddysg. Mae鈥檙 cynllun wedi cael ei ddileu yn Lloegr, ond mae鈥檔 dal ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd (yn 2017).
Yr oedran pleidleisio yng Nghymru ar hyn o bryd yw 18. Os bydd yr oed pleidleisio鈥檔 cael ei ostwng i 16 yng Nghymru, gallai hyn olygu bod gan bobl ifanc fwy o siawns i ddylanwadu ar benderfyniadau gwleidyddol sy鈥檔 ymwneud 芒 materion fel dileu cynlluniau tebyg i鈥檙 Lwfans Cynhaliaeth Addysg.