Ffynonellau gwybodaeth
Mae dau fath o ffynhonnell gwybodaeth:
- cynradd
- eilaidd
Mae鈥檔 bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y ffynonellau gwybodaeth, oherwydd bydd hyn yn dylanwadu ar ei hygrededd.
Ffynhonnell cynradd
Ffynhonnell cynradd yw鈥檙 ffynhonnell agosaf at y digwyddiad, yr ymchwil neu鈥檙 profiad gwreiddiol.
Enghreifftiau o ffynonellau cynradd yw:
- llythyr gwreiddiol
- darn o ddyddiadur gwreiddiol
- nodiadau o arbrawf neu ymchwil gwreiddiol
- nofel
- cerdd
- drama
Ffynhonnell eilaidd
Mae ffynhonnell eilaidd un cam ymhellach oddi wrth y digwyddiad, yr ymchwil neu鈥檙 profiad cynradd (gwreiddiol).
Enghreifftiau o ffynonellau eilaidd yw:
- adroddiad gwyddonol yn seiliedig ar nodiadau o arbrawf gwreiddiol
- beirniadaeth yn seiliedig ar nofel, drama neu gerdd wreiddiol