大象传媒

Achosion troseddPwysau a thechnoleg newydd yn yr 20fed ganrif

Mae yna nifer o resymau pam fod pobl yn troseddu. Mae rhai o鈥檙 achosion yma wedi bodoli erioed, megis trachwant, tlodi a chaledi economaidd. Mae achosion trosedd eraill wedi newid ers 1500. Beth oedd prif achosion trosedd dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Pwysau yn cynnwys technoleg newydd yn yr 20fed ganrif

Troseddu newydd yn yr 20fed ganrif

LlofruddiaethauByrgleriaethLladrad
19003123,81263,604
20006811,100,0002,380,000
1900
Llofruddiaethau312
Byrgleriaeth3,812
Lladrad63,604
2000
Llofruddiaethau681
Byrgleriaeth1,100,000
Lladrad2,380,000

Mae鈥檙 gyfradd troseddu wedi codi鈥檔 sylweddol yn ystod yr 20fed ganrif wrth i fwy o droseddau gael eu hadrodd i'r heddlu, eu cofnodi a鈥檜 canfod gan yr heddlu.

Mae nifer o鈥檙 troseddau hyn yn newydd, a nifer ohonyn nhw'n gysylltiedig 芒 datblygu ceir, technoleg gyfrifiadurol a thwf terfysgaeth fodern. Erbyn hyn mae troseddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cheir ymysg y troseddau mwyaf cyffredin ym Mhrydain. Ond mae troseddau oedd eisoes yn bodoli wedi parhau hefyd oherwydd mae lladrad, dwyn, ymosodiadau a llofruddiaeth yn dal i ddigwydd.

Achosion troseddau trafnidiaeth

Troseddau posib a gyflawnir wrth ddefnyddio ceir 鈥 dim trwydded, dim yswiriant, dim MOT dilys, gyrru鈥檔 beryglus, gyrru鈥檔 rhy gyflym, defnyddio ff么n symudol wrth yrru.

Dechreuodd ceir gael eu cynhyrchu ar raddfa fawr yn ystod y 1920au. Erbyn y 1930au roedd ceir yn gynyddol fforddiadwy i bobl y dosbarth uwch a鈥檙 dosbarth canol. Erbyn diwedd yr 20fed ganrif roedd yna dros 25 miliwn o geir ar ffyrdd Prydain.

Mae ceir wedi arwain at droseddau newydd. Mae deddfau newydd wedi cael eu pasio er mwyn sicrhau bod gyrru ceir yn ddiogel i bobl. Er enghraifft, erbyn hyn mae yna ddeddfau yn erbyn yfed a gyrru, gyrru heb drwydded neu yswiriant, gyrru car heb MOT dilys, gyrru鈥檔 beryglus, goryrru, a defnyddio ff么n symudol wrth yrru.

Mae ceir wedi cael eu defnyddio i gyflawni troseddau. Mae ceir yn galluogi i droseddwyr fynd i ac o leoliad trosedd yn gyflymach. Defnyddiwyd ceir fel cerbydau ffoi i droseddwyr oedd yn golygu bod mwy o obaith dianc. Mae ceir hefyd wedi cael eu defnyddio fel arfau troseddol, er enghraifft ram-rading.

Mae ceir yn gallu bod yn destun troseddau. Mae ceir yn eitemau cymharol ddrud, felly gellir gwneud arian o ddwyn ceir. Yn aml mae pobl yn gadael eiddo mewn ceir, a gallant fod yn dargedau hawdd i ladron.

Achosion troseddu cyfrifiadurol

Mae dyfeisiadau cyfrifiadurol wedi creu mathau newydd o droseddau, ac wedi rhoi cyfleoedd a dulliau newydd i droseddwyr gyflawni mathau o droseddau oedd eisoes yn bodoli.

Mathau newydd o droseddauDulliau newydd o gyflawni
Hacio, lawrlwytho cerddoriaeth neu ffilmiau yn anghyfreithlon, sgamiau gwe-rwydo, dwyn hunaniaeth, creu firysau cyfrifiadurolSeiberfwlio, twyll, troseddau rhyw
Mathau newydd o droseddauHacio, lawrlwytho cerddoriaeth neu ffilmiau yn anghyfreithlon, sgamiau gwe-rwydo, dwyn hunaniaeth, creu firysau cyfrifiadurol
Dulliau newydd o gyflawniSeiberfwlio, twyll, troseddau rhyw

Erbyn hyn mae gan y rhan fwyaf o bobl fynediad i gyfrifiadur, tabled neu ff么n clyfar. Mae twf ym mherchnogaeth y dyfeisiau hyn wedi galluogi troseddwyr i gyfathrebu'n gyflym, gyda mynediad i鈥檙 rhyngrwyd o unrhyw leoliad. Mae hyn yn galluogi troseddwyr i gyflawni troseddau o unrhyw le.

Troseddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chyffuriau

Ers y 1960au mae defnyddio cyffuriau anghyfreithlon wedi cynyddu ym Mhrydain, ac mae hynny wedi arwain at gynnydd mewn nifer o fathau o droseddau.

  • Erbyn hyn mae yna fwy o gyfleoedd i droseddwyr wneud elw sylweddol o dyfu, masnachu a gwerthu cyffuriau.
  • Mae smyglo a dosbarthu cyffuriau yn fath o - yn cael ei redeg gan gangiau. Yn aml mae鈥檙 gangiau yma yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am gwsmeriaid. Yn aml gall gelyniaeth rhwng gangiau cyffuriau arwain at drais gangiau, a throseddau鈥檔 gysylltiedig 芒 drylliau a chyllyll.
  • Oherwydd bod pobl yn gallu mynd yn gaeth i gyffuriau, yn aml mae defnyddwyr cyffuriau yn cyflawni troseddau eraill, megis lladrad neu fyrgleriaeth, er mwyn cael yr arian i brynu cyffuriau.
  • Hefyd, gall gangiau cyffuriau fod yn ymwneud 芒 mathau eraill o droseddau cyfundrefnol, megis masnachu pobl.

Achosion troseddu treisgar

  • Parodrwydd cynyddol rhai pobl i ddefnyddio trais. Cynyddodd troseddau gynnau 90 y cant yn y degawd rhwng 1999 a 2009. Cynyddodd troseddau gyda chyllyll, a gysylltir yn aml iawn gyda gangiau o bobl ifanc. Roedd 277 o farwolaethau o ganlyniad i drywanu yng Nghymru a Lloegr yn 2008.
  • Cynnydd yn y defnydd o alcohol a chyffuriau. Mae alcohol yn aml yn gysylltiedig 芒 throseddau treisgar fel hwliganiaeth p锚l-droed, cam-drin domestig, ymladd ar benwythnosau tu allan i dafarndai/canol trefi. Mae bod yn gaeth i gyffuriau yn arwain at droseddau megis mygio a lladrata, a rhai ohonyn nhw'n gysylltiedig 芒 defnyddio arfau.
  • Mwy o ddrylliau a chyllyll ar gael.
  • Efallai bod y cyfryngau, ffilmiau, cerddoriaeth a gemau fideo wedi gweddnewid troseddau treisgar a'u gwneud yn apelgar.
  • Gwelwyd gangiau o gefnogwyr p锚l-droed yn ymladd 芒鈥檌 gilydd drwy gydol yr 20fed ganrif. Serch hynny, o'r 1970au ymlaen, daeth yn broblem arbennig wrth i鈥檙 ymladd ddod yn fwy trefnus ac wedi鈥檌 dargedu. Yn 1985, arweiniodd yr ymladd rhwng cefnogwyr Prydain a鈥檙 Eidal yn Stadiwm Heysel yng Ngwlad Belg at ddymchwel wal a laddodd 39 o bobl. Mae uned heddlu arbennig, gwahanu cefnogwyr a defnyddio teledu cylch-cyfyng (CCTV) wedi helpu i reoli'r broblem.