大象传媒

Effeithiolrwydd personolCynnal cyfarfodydd effeithiol

Mae effeithiolrwydd personol yn ymwneud 芒 deall dy hun. Gall archwiliad sgiliau dy helpu i adnabod cryfderau a meysydd i鈥檞 gwella. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwaith t卯m a sgiliau cyflwyno.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Cynnal cyfarfodydd effeithiol

Mae cyfarfodydd yn gallu bod yn ffordd effeithiol iawn o drafod rhywbeth wyneb yn wyneb. Mae cyfarfodydd yn cael eu defnyddio er mwyn:

  • trafod syniadau
  • trafod cyfleoedd posibl
  • trafod problem a sut i鈥檞 datrys
  • trafod sut i symud ymlaen 芒 rhywbeth
  • gwneud penderfyniadau

Er bod llawer o gyfathrebu鈥檔 digwydd dros y ff么n, drwy negeseuon ebost a negeseuon testun, drwy鈥檙 cyfryngau cymdeithasol a thrwy鈥檙 post, mae cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn bwysig gan eu bod yn cynnig cryfderau ychwanegol.

Mewn cyfarfod, mae鈥檔 bosibl clywed beth sy鈥檔 cael ei ddweud, a gweld iaith corff a chyhyrau wyneb pwy bynnag sy鈥檔 siarad, yn ogystal 芒鈥檙 ymateb i beth bynnag sy鈥檔 cael ei ddweud gan bobl eraill.

Mae鈥檔 bosibl defnyddio cyfleusterau fideogynadledda hefyd. Mae鈥檙 dechnoleg hon yn golygu bod rhywun yn gallu bod mewn cyfarfod, er nad yw yn yr un lleoliad 芒 phawb arall, drwy gyswllt fideo byw. Mae鈥檔 golygu bod pobl yn dal i allu gweld mynegiant wyneb ac iaith corff ei gilydd.

Gr诺p o bobl busnes yn cael cynhadledd fideo mewn ystafell bwrdd
Image caption,
Mae fideogynadledda yn ffordd dda o asesu iaith corff pan nad yw鈥檔 bosibl cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb