大象传媒

Effeithiolrwydd personolCyflwyniadau effeithiol

Mae effeithiolrwydd personol yn ymwneud 芒 deall dy hun. Gall archwiliad sgiliau dy helpu i adnabod cryfderau a meysydd i鈥檞 gwella. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwaith t卯m a sgiliau cyflwyno.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Cyflwyniadau effeithiol

Er mwyn creu araith neu gyflwyniad effeithiol mae angen cynllunio, myfyrio ac ymarfer.

Mae mynegiant wyneb ac iaith corff llawn mor bwysig 芒鈥檙 geiriau sy鈥檔 cael eu dweud er mwyn cyfathrebu鈥檔 llwyddiannus.

Mae gan bob araith neu gyflwyniad ddwy brif agwedd:

  • cynnwys (beth rwyt ti鈥檔 ei ddweud)
  • cyflwyniad (sut rwyt ti鈥檔 ei ddweud)
Dyn o flaen sgrin fawr yn rhoi cyflwyniad i gr诺p sy鈥檔 eistedd wrth fwrdd mawr

Cynnwys

O ran y cynnwys, y rhannau pwysicaf yw鈥檙 dechrau a鈥檙 diwedd. Bydd brawddeg agoriadol dda yn dal sylw鈥檙 gynulleidfa.

Dyma rai ffyrdd o sicrhau dy fod yn dechrau鈥檙 cyflwyniad mewn ffordd gadarn a hyderus.

  • Heria鈥檙 gynulleidfa drwy wyrdroi cred gyffredinol, ee 鈥淒ydy estrys ddim yn claddu ei ben yn y tywod er mwyn cuddio oddi wrth ei elynion.鈥 Ond gwna鈥檔 si诺r bod y gred neu鈥檙 ffaith rwyt ti鈥檔 ei dewis yn cysylltu鈥檔 glir gyda chynnwys dy gyflwyniad.
  • Gofynna gwestiwn rhethregol, sef cwestiwn sydd ddim angen ateb penodol, ee 鈥淏eth yw ystyr bywyd?鈥 Serch hynny, bydd cwestiwn rhethregol yn gwneud i鈥檙 gynulleidfa feddwl am atebion posibl.
  • Defnyddia ddyfyniad enwog neu ymadrodd cofiadwy i fachu sylw鈥檙 gynulleidfa.
  • Synna鈥檙 gynulleidfa gyda ffeithiau neu ystadegau syfrdanol ac ysgytiol, ee 鈥淢ae tua 50 miliwn o dunelli o wastraff trydanol yn cael ei luchio鈥檔 fyd-eang bob blwyddyn. Mae hynny鈥檔 gyfwerth 芒 4 miliwn o fysys deulawr o hen gyfrifiaduron, setiau teledu a pheiriannau cegin, a allai ymestyn i鈥檙 Lleuad mwy na thair gwaith drosodd.鈥
  • Cyfeiria at ddigwyddiad hanesyddol a ddigwyddodd ar ddiwrnod dy gyflwyniad, os oes modd ei gysylltu gyda chyd-destun dy araith, ee 鈥淎r y diwrnod hwn yn...鈥
  • Adrodda stori fer neu chwedl gyda neges sy鈥檔 gysylltiedig 芒 phrif thema dy gyflwyniad, ee 鈥淵chydig o flynyddoedd yn 么l, cyn i fy rhieni ddeall pa mor bwysig oedd ailgylchu, dw i鈥檔 eu cofio nhw鈥檔 dweud wrthyf fi eu bod arfer 芒...鈥
  • Dechreua dy gyflwyniad gyda'r geiriau 鈥淏eth petai...?鈥 i ysgogi'r gynulleidfa i feddwl am thema neu bwnc penodol.

Mae angen brawddeg olaf dda hefyd, hynny yw un fydd yn gwneud i鈥檙 gynulleidfa chwerthin efallai, neu rywbeth y bydd pobl yn dal i feddwl amdano ar 么l i鈥檙 cyflwyniad ddod i ben.

Rhaid i gynnwys y cyflwyniad fod yn hawdd i鈥檞 ddilyn. Un ffordd effeithiol o wneud hyn yw drwy ddefnyddio pwyntiau cyfeirio.

Pwyntiau cyfeirio

Bydd defnyddio pwyntiau cyfeirio o fewn y cyflwyniad yn helpu'r gynulleidfa i ddilyn trywydd y cyflwyniad yn well. Dechreua drwy egluro strwythur y cyflwyniad. Wedyn yn ystod y cyflwyniad bydd angen i ti ddefnyddio geiriau ac ymadroddion i nodi鈥檔 glir pan fydd un rhan wedi gorffen a'r rhan nesaf yn dechrau. Er enghraifft, "Wedi egluro fy mod yn hoffi parasiwtio, rwyf nawr am drafod y peryglon posibl".

Cyflwyniad

O ran y cyflwyno, mae ymarfer yn hollbwysig. Mae'n rhaid traddodi鈥檙 araith yn bwyllog ac yn hyderus gan ddefnyddio llais sy'n glir ac yn uchel. Mae hi hefyd yn bwysig i beidio 芒 siarad yn rhy gyflym.

Paid 芒 darllen testun mewn cyflwyniad sioe sleidiau neu o gardiau areithio air am air. Yn hytrach, defnyddia'r testun fel proc i'r cof gan ymhelaethu ar y cynnwys ar lafar.

Mae pobl yn hoffi teimlo bod y cyflwynydd yn siarad yn uniongyrchol gyda nhw, felly bydd angen dal llygad aelodau'r gynulleidfa.

Yn gyffredinol, bydd cyflwyniad yn cynnwys:

  • agoriad
  • prif gorff y cyflwyniad
  • casgliad