大象传媒

Cyflwyniad

Map o leoliadau'r nofel 'Yn Y Gwaed'
Figure caption,
Map o leoliadau'r nofel 'Yn Y Gwaed'

Wrth ymateb i'r nofel hon, bydd angen i ti:

  • ateb yn sensitif ac yn fanwl i'r nofel er mwyn gwerthfawrogi ei chynnwys, ei chymeriadau a'i them芒u
  • adnabod a gwerthfawrogi arddull yr awdur
  • defnyddio tystiolaeth briodol o'r testun
  • cyflwyno ymateb personol a chreadigol i'r nofel.

Crynodeb o鈥檙 stori

Hanes tywyll un teulu ydy Yn y Gwaed. Y teulu hwn sy鈥檔 ffermio Arllechwedd, gan grafu bywoliaeth o鈥檙 tir anial, mynyddig. Aelodau鈥檙 teulu ydy鈥檙 hen wraig y cyfeirir ati鈥檔 unig fel Mam (ni chawn wybod ei henw), ei merch, Mared, a鈥檌 mab, Robin. Mae Mared a Robin yn eu pedwar degau. Ond daw鈥檔 amlwg cyn bo hir fod yna bedwerydd aelod o鈥檙 teulu hefyd, sef cymeriad y maen nhw鈥檔 cyfeirio ato fel Fo.

Mae Fo yn byw dan glo yn y llofft stabl. Ac yn wir, mae teimlad cryf yn y nofel o bresenoldeb aelod arall eto o鈥檙 teulu, sef Dewyrth Ifan. Er bod Dewyrth Ifan wedi marw ers blynyddoedd maith y mae, fel Fo, yn rhan ganolog o鈥檙 stori. Mae鈥檙 nofel yn adrodd hanes y teulu dros gyfnod byr o ychydig fisoedd, ond mae鈥檔 darlunio gorffennol y teulu hefyd. Mae鈥檙 gorffennol hwnnw wedi taflu cysgod du dros deulu Arllechwedd ar hyd y blynyddoedd, ac mae鈥檔 dal i wneud hynny yn y cyfnod dan sylw.