大象传媒

I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug WynCefndir y nofel

Mae'r nofel hon wedi ei seilio ar hanes Taith Fawr y Navaho ym 1864. Mae'n llawn gwrthdaro rhwng cymeriadau hanesyddol a dychmygol o blith y Navaho, yr Apache a'r Cotiau Glas.

Part of Llenyddiaeth GymraegNofelau

Cefndir y nofel

Wyt ti wedi clywed am Daith Faith y Navaho neu The Long Walk? Er mwyn deall y nofel hon rhaid i ti sylweddoli mai鈥檙 daith hon ydy canolbwynt y nofel. Dyma ychydig o hanes Y Daith Faith:

Mae鈥檙 nofel yn digwydd yn ystod cyfnod Rhyfel Cartref America. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd setlwyr gwyn yn chwilio am diroedd ffrwythlon yn nhaleithiau deheuol gogledd America. Roedd llwyth y Navaho yn byw ar diroedd ffrwythlon iawn, ee Ceunant de Chelley.

Roedd gan y fyddin, y Cotiau Glas, wersyll milwrol heb fod ymhell o Geunant de Chelley, o鈥檙 enw Ffort Defiance.

Anfonwyd y Cotiau Glas, o Ffort Defiance i ddinistrio Ceunant de Chelley a symud y Navaho o鈥檜 tiroedd. Ym 1864 cafodd miloedd o鈥檙 Navaho eu gorfodi i gerdded o Geunant de Chelley, yn nhalaith Arizona, i wersyll Bosque Redondo ger Ffort Sumner yn nhalaith New Mexico.

Dechreuodd y daith hon ym mis Ionawr 1864 a bu farw o leiaf 200 wrth iddyn nhw gerdded tua 300 milltir mewn 18 diwrnod.