Cynnwys
Wrth ymateb i鈥檙 nofel hon bydd disgwyl i ti:
- werthfawrogi cynnwys, them芒u a chymeriadau鈥檙 nofel
- adnabod a gwerthfawrogi arddull yr awdur, dyfynnu a thrafod addasrwydd
- cyflwyno ymateb personol a chreadigol i鈥檙 nofel
Rhan 1
Mae鈥檙 nofel yn agor yn y ffair yn Nolgellau lle mae torf o bobl yn amlwg yn cael hwyl. Ond dydy Rowland Ellis ddim yn teimlo ei fod yn perthyn. Mae boddi Betsan Prys yn troi ei stumog, ac mae鈥檔 dychwelyd at ei wraig, Meg, ym Mrynmawr.
Mae鈥檙 ddau ohonyn nhw鈥檔 mynd allan i Blygain yr Hengwrt, a鈥檜 gwas Ellis Puw yn mynd i ymweld ag un o鈥檙 Crynwyr, sef Ifan Roberts, yn y carchar.
Daw Rowland Ellis yn fwy ymwybodol ei fod yn cytuno gyda鈥檙 Crynwyr, ac mae Meg yn teimlo ei fod yn meddwl mwy ohonyn nhw nag ohoni hi.
Mae Rowland Ellis yn mynd i un o gyfarfodydd y Crynwyr, ac mae鈥檔 sylweddoli ei fod yn un ohonyn nhw bellach. Mae Meg yn ceisio cael erthyliad ond mae鈥檔 methu.
Mae Meg yn cuddio arian mewn cist er mwyn cael digon i ddianc, ond mae Huw Morris, yn darganfod hyn. Mae Meg yn marw ar enedigaeth ei hail blentyn.
Rhan 2
Mae Ellis Puw yn gofyn i Dorcas ei briodi. Mae Lisa鈥檔 mynd i鈥檙 ffair, ac mae鈥檔 cyfarfod Huw Morris yno. Ar y ffordd adref, mae Huw yn treisio Lisa, ac mae Rowland Ellis yn ei ddiswyddo. Mae erlid y Crynwyr yn gwaethygu, ac mae Rowland Ellis yn anfon llythyr at Marged Owen yn rhoi hanes ei gyfarfyddiad 芒 William Penn. Mae Penn yn ceisio gwerthu鈥檙 syniad o symud i鈥檙 Amerig er mwyn dechrau bywyd newydd.
Mae Lisa a Dorcas yn cael ymweliad gan ddau gwnstabl yn chwilio am Ellis Puw er mwyn ei arestio.
Mae Dorcas a Rowland Ellis yn mynd i weld Ellis yn y carchar. Mae Rowland yn gofyn i鈥檙 Ustus ryddhau Ellis gan gynnig mynd i鈥檙 carchar yn ei le.
Mae nifer o鈥檙 Crynwyr yn cael eu carcharu.
Mae Marged Owen a Rowland Ellis yn trefnu priodi. Mae Dorcas yn cael ei rhoi yn y Gadair Goch a鈥檌 boddi.
Mae Rowland Ellis a rhai o鈥檙 Crynwyr yn 么l yn y carchar. Maent yn cael eu cyhuddo o ddod 芒 gallu tramor i鈥檙 wlad a chael eu dedfrydu i farwolaeth. Mae neges yn cyrraedd oddi wrth y Barnwr Hale yn profi bod y gosb o grogi yn anghyfreithlon yn yr achos hwn. Mae鈥檙 Crynwyr yn cael eu rhyddhau.
Mae nifer o Grynwyr yn prynu tir ym Mhensylfania. Mae William Penn yn cytuno y byddai鈥檙 Cymry yn gallu byw yn agos at ei gilydd yno. Mae Rowland yn penderfynu mynd wedi i Lisa ofyn a fyddai hi a Tomos y gwas yn gallu dod i鈥檙 Amerig gyda nhw. Mae鈥檔 anfon Lisa a Tomos gyda鈥檙 criw cyntaf i baratoi鈥檙 ffordd ar ei gyfer ef. Mae Ellis yn s么n ei fod am briodi Sinai Roberts.
Mae Rowland a Marged yn teithio i Aberdaugleddau i ffarwelio 芒鈥檙 criw cyntaf o Grynwyr i fynd. Mae Marged Owen yn sylweddoli maint y golled.