Clymu ei hun i'r mast
Ddeuddydd yn ôl roedd hi'n ymddangos bod 'na dri opsiwn posib o safbwynt y cam nesaf yn y saga.
Yr opsiwn cyntaf oedd awgrym Alun Davies ac eraill yn y Cynulliad y dylai'r awdurdod cyfan gan gynnwys y cadeirydd ymddiswyddo. Yr ail opsiwn oedd yr awgrym gan Geidwadwyr Cymreig San Steffan y dylai John Walter Jones barhau yn ei swydd tra bod gweddill aelodau'r awdurdod allan trwy'r drws. Drychddelwedd o'r cynllun hwnnw oedd awgrym Geraint Talfan Davies y dylai'r cadeirydd fynd a gweddill yr awdurdod aros.
Efallai na ddylwn i synnu at unrhywbeth bellach ond doeddwn i byth bythoedd wedi rhagweld dablygiadau ddoe. O am fod yn bry ar wal yng nghyfarfod nesaf yr awdurdod ar ôl popeth sydd wedi cael ei ddweud yn gyhoeddus ac yn breifat yn ystod yr wythnos ddiwethaf!
Ta beth, mae yn cynnig prawf o un stori yr oeddwn wedi ei chlywed ond yn methu eu chadarnhau wythnos ddiwethaf. Yn ei ddatganiad dywed John Walter hyn;
"Mi fydda i yn 65 ddiwedd Mawrth flwyddyn nesa' a fy mwriad oedd cael ymddeol o fod yn Gadeirydd S4C bryd hynny. Fe ges i a'r Ysgrifennydd Gwladol sgwrs ac roedd o'n deall fy mhenderfyniad. Wnaeth o a fi ddim cytuno pryd y byddwn yn gwneud fy mhenderfyniad yn gyhoeddus. Yn sicr, doeddwn i ddim am i'm penderfyniad ddod yn bwnc trafod, na dylanwadu ar y broses oedd ar waith o ran penodi Prif Weithredwr, felly ddydd Gwener diwethaf wedi amser cau ceisiadau oedd yr amser o'n i wedi bod yn meddwl amdano. Ond ches i ddim cyfle. Fe gamddehonglwyd cynnwys llythyr personol i mi gan Jeremy Hunt, ac fe drawyd S4C unwaith eto gan swnami."
Nid camddehongliad o gynnwys llythyr Jeremy Hunt y mae John Walter yn cyfeirio ato yn fan hyn ond camddehongliad o bwy oedd i fod i dderbyn y llythyr. Trwy gamgymeriad, hap a damwain neu am ryw reswm arall fe gafodd y "llythyr personol" ei gylchredeg i aelodau eraill yr awdurdod. Oni bai am hynny ni fyddai dyfodol y cadeirydd wedi codi yn y cyfarfod lle wnaeth John Walter "ymddiswyddo".
Mae Dewi a Gwylan yn y sylwadau yn cwyno nad ydym eto yn gwybod y stori gyflawn am S4C. Mae 'na bethau na ellir eu dweud am resymau cyfreithiol yn ymwneud a thribiwnlys Iona Jones ond yn y bôn dwi'n meddwl bod stori fewnol S4C yn weddol eglur erbyn hyn.
Y broblem yw bod darnau'r jig-so wedi eu gwasgaru ar draws amryw bost a rhaglen. Fe wnaf i geisio crynhoi'r hyn 'da'n ni'n gwybod felly.
Mae'n ymddangos mae'r drwg yn y caws oedd y gyfundrefn o "arwahanrwydd" a fabwysiadwyd gan S4C yn 2006. Cyfundrefn wedi eu modeli ar system lywodraethu newydd y ´óÏó´«Ã½ oedd hon. Fe fyddai'r Sianel yn cael ei rhedeg gan fwrdd o reolwyr proffesiynol gyda hyd braich rhyngddo a'r awdurdod. Ni fyddai'r awdurdod yn ymyrryd ym mhenderfyniadau dydd i ddydd y rheolwyr. Yn hytrach llunio canllawiau, gosod targedau a mesur perfformiad fyddai rôl yr awdurdod.
Dros gyfnod o amser fe ddechreuodd rhai aelodau o'r awdurdod deimlo fod y rheolwyr yn defnyddio'r gyfundrefn i gau allan yr awdurdod a mynd tu ôl i gefnau'r aelodau.
Comisiynwyd adolygiad gan gwmni Price Waterhouse Coopers oedd yn nodi bod 'na wendidau sylfaenol yn perthyn i 'arwahanrwydd'. Doedd pethau ddim wedi mynd o le eto ond mewn cyfres o feysydd roedd 'na beryg y gallen nhw.
Yn sgil ail adolygiad, y tro hwn gan Emyr Byron Hughes, cytunwyd y dylai'r gyfundrefn ddod i ben. Fe wnaeth Iona Jones awgrymu bod hynny ar fin digwydd wrth ohebydd cyfryngau'r Guardian ar drothwy ei hymadawiad.
Am ryw reswm doedd cydsyniad Iona Jones i'r newid ddim yn ddigon i rai o aelodau'r awdurdod a mynnwyd ei hymadawiad. Roedd John Walter Jones yn gwrthwynebu'r penderfyniad hwnnw a gwrthododd gyflawni'r weithred ei hun.
Byth ers hynny mae'r berthynas rhwng John Walter a gweddill yr awdurdod wedi bod yn anodd ac mae'n debyg ei fod yn ystyried digwyddiadau wythnos ddiwethaf fel ymdrech i "fownsio'r" Cadeirydd yn yr un modd a ddigwyddodd i'r Prif Weithredwr.
Dyna yw'r stori fewnol yn S4C cyn belled ac rwyf yn ei deall. Mae stori wahanol gyfochrog wedi bod yn digwydd yn San Steffan a'r Bae.
Wrth benderfynu p'un ai i glymu ei hun i'r mast ai peidio fe dybiwn i mai'r cwestiwn yma oedd ym mlaen meddwl John Walter.
"Ydy ymddygiad mwyafrif yr awdurdod yn achos Iona Jones ac ers hynny wedi gwanhau neu gryfhau S4C yn y trafodaethau gyda'r DCMS a'r ´óÏó´«Ã½?"
Os oedd John o'r farn bod y mwyafrif wedi ymddwyn yn fyrbwyll ac yn ddifeddwl ac wedi gwanhau llaw S4C mae'n bosib deall pan nad oedd yn fodlontdyfodol y sianel i'w dwylo.