Denwyd cynulleidfa fawr i Neuadd Gymunedol Y Borth nos Iau, 28 Chwefror, pan gynhaliwyd cyfarfod, o dan nawdd Antur Teifi a'r gr诺p gweithredu, "Cynnal Ceredigion", i dderbyn cyflwyniad. Y Cadeirydd oedd y Cynghorydd Ray Quant.
Siaradodd Mike Bailey o Gyngor Cefn Gwlad Cymru am bwysigrwydd Cors Fochno (sydd yr enghraifft orau o gyforgors aberol ym Mhrydain ac am yr angen i ddal y fantol rhwng gwarchod natur a mesurau i leihau peryglon llifogydd.
Yn ail hanner y cyflwyniad, siaradodd Mick Newman o Gwmni Royal Haskoning am y problemau yngl欧n ag amddiffyn a datblygu traethau'r Borth. Erbyn hyn mae'r grwynau yn mynd yn hen ac aneffeithiol ac mae'r traeth yn araf golli ei dywod. Penderfynwyd codi morgloddiau newydd, gyda riffau dandd诺r i hwyluso beistonna, a chymryd mesurau i atal y tywod rhag symud - yn gynllun fydd yn costio tua 拢20 miliwn.
Ar 么l egwyl am gwpaned o de neu goffi, ffurfiwyd grwpiau trafod i wyntyllu'r cynlluniau'n fanwl.
|