Cafodd Swyn Haf ei ffilmio ar gyfer
Y Daith, cyfres o chwech o raglenni ar y
sianel yn dilyn pererindodau gwahanol.
Fe'i dilynwyd hi a 70 o bobl ifanc eraill
wrth iddyn nhw deithio i dref Lourdes yn
Ne-Orllewin Ffrainc ym mis Gorffennaf
2009 fel rhan o Bererindod Genedlaethol
o Gymru.
Mae Lourdes yn un o brif
gysegfrannau'r Eglwys Gatholig ac mae'n
denu tua chwe miliwn o ymwelwyr bob
blwyddyn, yn eu plith nifer o gleifion sy'n
chwilio am iach脿d corfforfol neu ysbrydol.
Dangoswyd Swyn a'i ffrind Gwenllian
Daniel o Aberystwyth yn gofalu am
aelodau o'r Eglwys Gatholig oedd yn s芒l, yn
oedrannus neu oedd ag anableddau - ac na
fyddai wedi gallu ymweld 芒 Lourdes onibai
am gymorth y gwirfoddolwyr ifanc.
Yn
ystod y rhaglen hefyd, fe welwyd Swyn yn
darllen gweddiau'r ymbil茂au yn ogof y Grotto
- un o lefydd mwyaf sanctaidd Lourdes lle
dywedir i'r Forwyn Fair ymddangos i ferch
ifanc o'r enw Bernadette ym 1858.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd
Rhydypennau ac Ysgol Gyfun Penweddig,
mae Swyn bellach yn fyfyrwraig
ail-flwyddyn ym Mhrifysgol Caergrawnt lle
mae'n astudio Almaeneg a Sbaeneg.
Cafodd ei derbyn i'r ffydd Gatholig yn
Eglwys Santes Gwenffrewi yn Aberystwyth
ac eleni oedd y drydedd flwyddyn yn
olynol iddi hi a Gwenllian fynd i Lourdes
gyda Phererindod Cymru.
"Er bod crefydd dan y lach falle braidd yn
y cyfryngau dyddie hyn, dydy hyn ddim yn
wir - mae na lot o bobl gyda lot o ffydd yn
gwneud teithiau ar draws y byd byd i fynd i
rywle crefyddol a phobl yn gallu cyd-dynnu
a gwneud gwaith da gyda'i gilydd," meddai
Swyn.
"Dwi'n meddwl bod Lourdes yn rhywle
sy'n dangos cryfder crefydd a'r pwer sydd
ganddo i ddod a phobl at ei gilydd."
Cynhyrchwyd Y Daith: Dwy yn Lourdes
gan gwmni Unigryw o Aberystwyth ac fe
ddarlledwyd y rhaglen Nos Sul 25 Hydref
ond mae cyfle i weld i'w gweld o hyd.
|