Ar ddydd Gwener, yr 8fed o Orffennaf, agorwyd yr estyniad i Ysgol Gynradd Gymunedol Penrhyn-coch yn swyddogol gan y Cyng. Haydn Richards, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, yn ystod seremoni a lwyddwyd gan y Cyng. Emlyn Thomas, yr Aelod Cabinet 芒 Chyfrifoldeb am Addysg a Gwasanaethau Cymunedol.
Cafwyd cymhorthion grant oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad, ac mae'n darparu cyfleusterau modern gan gynnwys dosbarth a maes chwarae estynedig ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar.
Mae hyn oll yn creu amgylchfyd sy'n briodol i gwrdd ag anghenion y 90 o ddisgyblion yn ogystal 芒'r athrawon a'r staff. O'r blaen, roedd hanner y disgyblion yn cael eu dysgu mewn adeiladau dros dro. Mynegodd Mrs. Sh芒n James, Cadeirydd y Corff Llywodraethol, a Mr. Emyr Pugh-Evans, y Pennaeth, eu pleser a'u llawenydd 芒'r cyfleusterau newydd gan ddiolch i'r Awdurdod Addysg a'r rhieni am eu cefnogaeth.
Difyrrwyd y gwesteion gan ddisgyblion yr Ysgol. Dyluniwyd yr estyniad gan Benseiri'r Sir a chodwyd yr adeilad gan T. O. Jones a'i Feibion.
Hefyd yn ystod y dathliad, dadorchuddiwyd cwilt oedd yn cynnwys gwaith a grewyd gan bob un o blant yr ysgol dan oruchwyliaeth Mrs Melanie Evans, i nodi pwysigrwydd yr estyniad hwn.
Datganodd y Cyng. Haydn Richards, Cadeirydd y Cyngor Sir, "Mae'n fraint bod yn rhan o achlysur mor hapus. Fel Awdurdod, mae'n bleser gennym gael cyfle i ddarparu cyfleusterau modern ar gyfer y disgyblion a'r staff. Carwn gydnabod y cyllid a dderbyniwyd oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a alluogodd inni wireddu'r prosiect hwn."
Ychwanegodd y Cyng. R. Emlyn Thomas, yr Aelod Cabinet 芒 Chyfrifoldeb am Addysg a Gwasanaethau Cymunedol, "rwy'n falch iawn ein bod, o'r diwedd, fel Cyngor wedi gallu darparu cyfleusterau priodol yn yr ysgol hon i gwrdd 芒 sialensiau'r 21ain ganrif. Hefyd, cydnabyddwn gyfraniad sylweddol y Llywodraethwyr, Mr. Emyr Pugh-Evans, y Prifathro a'r holl Staff tuag at addysg a lles y disgyblion sy'n rhan o deulu'r ysgol gynnes a gofalgar hon."
Yn y llun gwelir yn y blaen y Cynghorydd Haydn a Mrs Richards; rhes gefn: Dewi Hughes (Cyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol), Emyr PughEvans, Shan James, Y Cynghorydd Emlyn Thomas, (Aelod o'r Cabinet), Gareth Jones (Cyfarwyddwr Addysg), y Cynghorydd Dai Suter, a'r Cynbrifathrawon Alun John a R.T. Evans.