Roedd
gafael y capeli yn gryf ar gymdeithas, er hynny, ac 'roedd gwerthoedd oes
Victoria yn parhau i reoli. Er i deyrnasiad Victoria ddod i ben yn gynnar yn y
ganrif, fe gymerai amser cyn i werthoedd newydd dan deyrnasiad brenin newydd
ddisodli'r hen ffordd o fyw.
Dylanwad John
Morris-Jones
Plentyn y
bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y Brifwyl o hyd. Gorsedd Beirdd Ynys
Prydain a reolai'r Eisteddfod, ar y cyd ’ hen Gymdeithas yr Orsedd
dan unbennaeth E.Vincent Evans. Ac er bod dau gorff yn cynnal pob
Eisteddfod yn wyneb haul ac yn llygad goleuni, 'doedden nhw ddim yn
gweld llygad yn llygad yn aml, ac yn nhywyllwch eu hanwybodaeth yr
oedd beirdd yr Orsedd yn byw.
Ychydig cyn troad y ganrif cododd ysgolhaig, John Morris-Jones,
i herio'r hen drefn, i gyhuddo'r Orsedd o gynnal defodau paganaidd,
ac i ddatgelu mai twyll ar ran Iolo Morganwg oedd hynafiaeth honedig
yr Orsedd. Newydd eu sefydlu yr oedd colegau Prifysgol Cymru, yng
Nghaerdydd, Bangor, ac Aberystwyth, gyda cheiniogau'r werin.
ymlaen...
|
|
|