|
|
Y Senedd
Symudol
'Roedd tyndra rhwng Cymreictod
a Phrydeindod, a rhwng cenedlaetholdeb ac Imperialaeth. 'Roedd
cenedlaetholdeb yn codi yn Iwerddon.
Yng Nghymru 'roedd ysbryd Cymru Fydd yn fyw o hyd, ac er i'r mudiad fethu, 'roedd
Tom Ellis, A.S. Rhyddfrydol Meirionnydd a fu farw ym 1899, yn arwr gan
lawer o Gymry. 'Tom Ellis*' oedd testun cystadleuaeth y Goron ym 1904.
Delfryd Tom Ellis oedd sefydlu senedd i Gymru, ond dan gochl
Rhyddfrydiaeth Brydeinig. Er bod Cymru wedi colli Tom Ellis, 'roedd ei
gyd-Ryddfrydwr a'i gyd-aelod o Fudiad Cymru Fydd ar un adeg, David
Lloyd George, yn mynd o nerth i nerth. Erbyn 1908, gyda Herbert
Asquith yn Brif Weinidog, 'roedd Lloyd George wedi cael ei ddyrchafu
yn Ganghellor y Trysorlys.
Yn y cyfnod hwn 'roedd tyndra rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. 'Doedd llawer o Gymry ddim
yn fodlon fod cymaint o Saesneg yn rhan o weithgareddau'r Brifwyl.
Gwleidyddion ac arglwyddi di-Gymraeg oedd llawer o lywyddion yr
Eisteddfod. Bu rhai o Brif Weinidogion Prydain yn annerch y tyrfaoedd
eisteddfodol. Daeth dau o Brif Weinidogion y dyfodol i Langollen ym
1908, pan ddaeth Lloyd George 芒 Winston Churchill i'r Eisteddfod. Flwyddyn yn ddiweddarach yn Llundain,
anerchwyd y gynulleidfa gan ddau Brif Weinidog arall, y cyn-Brif
Weinidog A.J.Balfour, a Herbert Asquith. Dathlu undod yr Ymerodraeth
Brydeinig a wnaeth A.J.Balfour:
ymlaen...
|
|
|
'The memories that we as Welshmen, Scotchmen, Englishmen and Irishmen might have had
of our own seperate histories before we were united might well be
cherished, and that they would lead, if seen in their true
perspective, to no petty separatism, but that each part of the United
Kingdom would feel that its contribution was necessary to the common
interests of the whole.'
'Roedd blynyddoedd teyrnasiad Edward y Seithfed yn gyfnod o ffyniant a
llwyddiant, ac o optimistiaeth mawr. Ond er y cyfoeth, 'roedd tlodi a
dioddefaint yn parhau ymysg y cleifion a'r henoed. Gweithredwyd
cynllun uchelgeisiol o welliannau cymdeithasol gan y Blaid Ryddfrydol.
Dan arweiniad Lloyd George fel Canghellor y Trysorlys, 'roedd amodau
byw yn gwella. O 1909 ymlaen, 'roedd yr henoed i dderbyn pensiynau.
Wedyn sefydlwyd Yswiriant Cenedlaethol, i helpu'r claf, y methedig a'r
amddifad, ac estynnwyd cymorth i'r di-waith.
Roedd hyd yn oed buddugoliaeth t卯m rygbi Cymru yn
erbyn Seland Newydd ym 1905 yn arwydd o hyder newydd y Cymry ynddyn
nhw eu hunain.
Prifysgol y
Werin
'Roedd dadeni mawr wedi digwydd yng Nghymru yn ystod y
cyfnod Edwardaidd hefyd o safbwynt iaith, llenyddiaeth ac
ysgolheictod. 'Roedd ymdrechion John Morris-Jones i buro iaith a chodi
safonau barddoniaeth yn dechrau dwyn ffrwyth, ac 'roedd cynnyrch y
colegau Prifysgol yn arwain y 'Steddfod o anialwch y ganrif flaenorol.
Ond 'doedd pawb ddim yn hapus gyda chynnyrch y beirdd dysgedig.
Prifysgol y Werin oedd yr Eisteddfod yn 么l amryw, ond 'roedd canu
academaidd a rhamantaidd beirdd newydd y colegau yn annealladwy i'r
werin. Cododd to newydd disglair o feirdd er hynny: T.Gwynn Jones,
R.Silyn Roberts, W.J.Gruffydd, a'r ddau gefnder, R. Williams Parry a
T.H. Parry-Williams.
ymlaen...
|
|