> adroddiad y g锚m
PRIF DDIGWYDDIADAU
Sg么r Terfynol Lloegr 1-0 Paragwai
88 mun: Cafwyd arbediad campus arall gan Aldo Bobadilla wrth i Frank Lampard geisio ag ergyd o bell.
80 mun: Gyda Peter Crouch wedi ei ynysu yn y llinell flaen, mae Sven-Goran Eriksson yn penderfynu dod ag Owen Hargreaves i'r maes yn lle Joe Cole tra bo Paragwai yn gyrru Jorge Nunez i'r maes yn lle Delio Toledo.
72 mun: Roedd angen arbediad campus gan Aldo Bobadilla i rwystro Frank Lampard rhag ddyblu mantais Lloegr 芒 tharan o ergyd o 25 llath.
66 mun: Mae Nelson Valdez yn mwynhau ei hun i lawr yr asgell dde wrth i Loegr edrych yn flinedig iawn ar brydiau.
63 mun: Gorfodwyd Paul Robinson i arbed ergyd gan Nelson Valdez wedi ymosodwr Werder Bremen droi'n gelfydd yng nghwrt cosbi Lloegr.
62 mun: Bu bron i'r dim i Peter Crouch, gafodd gerdyn melyn am fod yn bowld 芒'r dyfarnwr, gasglu pas Gary Neville yn y cwrt bach, ond llwyddod Paragwai i glirio.
59 mun: Methodd Paul Robinson 芒 chasglu croesiad o'r dde ond ni fanteisiodd Carlos Paredes gan yrru ei ergyd ymhell dros y trawst.
58 mun: Llwyddodd Joe Cole i ennill y b锚l 芒 thacl wych ar ochr cwrt cosbi Paragwai ond arbedodd Aldo Bobadilla yn gyfforddus
57 mun: Mae Lloegr yn chwarae g锚m beryg wrth eistedd yn 么l a chaniatau Paragwai i ymosod.
55 mun: Sven-Goran Eriksson yn dod 芒 chwaraewr canol cae Middlesbrough, Stuart Downing, i'r maes yn lle Michael Owen, gan yrru Joe Cole ymlaen i chwarae tu 么l i Peter Crouch.
50 mun: Llwyddodd David Beckham i greu dryswch yn amddiffyn Paragwai 芒 chroesiad hyfryd o'r dde ond methodd Michael Owen a rheoli'r b锚l gan ganiatau Julio Cesar Caceres i glirio.
48 mun: Ildiodd Gary Neville cic gornel wrth i Nelson Valdez geisio derbyn pas lletraws yng nghwrt cosbi Lloegr.
46 mun: Mae'n amlwg fod Paragwai wedi cael pryd o dafod gan ey rheolwr, Anibal Ruiz, yn ystod yr egwyl ac maent wedi dod allan ar dan ar gyfer yr ail hanner.
Hanner Amser: Lloegr 1-0 Paragwai
45+2 mun: Daeth cyfle gorau Paragwai wrth i Steven Gerrard daclo Roque Santa Cruz yng nghwrt cosbi Lloegr ac ymatebodd Nelson Valdez ag ergyd fodfeddi heibio'r postyn
42 mun: Yn dilyn gwaith da i lawr yr asgell chwith gan Joe Cole cafwyd ergyd fodfeddi heibio'r postyn gan David Beckham.
38 mun: Cafodd David Beckham gic rhydd o'r union fan lle grewyd y g么l gyntaf, ond yn ffodus i Paragwai, roedd Nelon Valdez yn 么l i amddiffyn.
37 mun: Llwyddodd Peter Crouch i gyfuno 芒'i amddiffyn i glirio cic rhydd Paragwai, ond cafodd John Terry slap yn ei geg am ei drafferthion
33 mun: Er fod y tymheredd oddeutu 33 gradd selsiws ar y maes, mae'r dyfarnwr yn mynnu atal y chwaraewyr rhag derbyn diod o dd诺r gan y timau hyfforddi.
29 mun: Roedd croesiad Michael Owen drwch blewyn yn rhy uchel i Peter Crouch, ond llwyddodd ymosodwr Lerpwl i ddangos ei ddoniau ac ennill cic gornel
21 mun: Llwyddodd Paragwai i orfodi Paul Robinson i arbed am y tro cyntaf yn y g锚m wrth i Nelson Haedo Valdez ergydio o bell, a chafodd Steven Gerrard gerdyn melyn am ei dacl ar ymosodwr Werder Bremen.
13 mun: Mae Lloegr yn llwyr reoli'r chwarae a'r meddiant wrth i Paragwai geisio ymdopi ag ildio g么l gynnar a cholli eu prif golwr.
11 mun: Y dyfarnwr yn cosbi'r eilydd o golwr am ddal ar y b锚l yn rhy hir ac yn rhoi cic rhydd anuniongyrchol i Loegr yng nghwrt cosbi Paragwai.
Tarodd Frank Lampard y b锚l yn syth i'r mur amddiffynol a tharodd ei ail ergyd ymhell dros y trawst.
5 mun: Mae golwr Paragwai, Justo Villar, wedi anafu ei hun wedi carlamu o'i gwrt cosbi i glirio'r b锚l o lwybr Michael Owen ac mae'r eilydd, Aldo Bobadilla, yn dod i'r maes i ennill ei chweched cap.
3 mun: G么l - Lloegr 1-0 Paragwai
Cic rydd David Beckham yn cael ei droi i'w rwyd ei hun gan Carlos Gamarra
NEWYDDION
Fe ddylai Steven Gerrard ddechrau'r g锚m wedi iddo wella o anaf i'w gefn ac mae ymosodwr Paragwai, Roque Santa Cruz, wedi datgan ei fod yn holliach.
TIMAU
Lloegr: Robinson, G Neville, Terry, Ferdinand, A Cole, Beckham, Gerrard, Lampard, J Cole, Owen, Crouch.
Eilyddion: Bridge,
Campbell, Carragher, Carrick, Carson, Downing, Hargreaves,
James, Jenas, Lennon, Rooney, Walcott.
Paragwai: Villar, Caniza, Gamarra, Caceres, Toledo, Bonet, Acuna, Paredes, Riveros, Valdez, Santa Cruz.
Eilyddion: Barreto,
Bobadilla, Cabanas, Cuevas, Da Silva, Dos Santos, Gavilan,
Gomez, Lopez, Manzur, Montiel, Nunez.
Dyfarnwr: Marco Rodriguez (Mecsico)
TRIFIA
Mae Lloegr wedi ennill pob g锚m lle mae Peter Crouch wedi chwarae ac ers i Wayne Rooney wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2003, mae Lloegr wedi chwarae hebddo ar 10 achlysur gan ennill naw o'r gemau yma a sicrhau un g锚m gyfartal.
Mae chwaraewr o Paragwai wedi derbyn cerdyn coch yn ystod eu dwy g锚m diwethaf yng Nghwpan y Byd.
Yn ystod eu g锚m olaf yn 2002, cafodd Carlos Parades ei hel o'rmaes wedi 22 munud ac yn yr ail rownd yn erbyn Yr Almaen, cafodd Roberto Acuna fath cynnar.