Peniodd Gamarra gic rydd David Beckham o'r asgell chwith heibio ei golwr ei hun wedi tri munud o'r hanner cyntaf a reolwyd gan y Saeson.
Roedd Paragwai'n llawer mwy o fygythiad yn yr ail hanner gyda Lloegr yn rhoi eu hunain o dan bwysau gan amddiffyn yn llawer rhy ddwfn a chyda Peter Crouch wedi ei ynysu yn y llinell flaen.
Daeth Frank Lampard o fewn trwch blewyn i rwydo ail g么l i Loegr 芒 dau gyfle hwyr, ond roedd Lloegr yn ffodus na fanteisiodd ymosodwyr Paragwai ar eu meddiant wedi'r egwyl.
TIMAU
Lloegr: Robinson, G Neville, Terry, Ferdinand, A Cole, Beckham, Gerrard, Lampard, J Cole, Owen, Crouch.
Eilyddion: Bridge,
Campbell, Carragher, Carrick, Carson, Downing, Hargreaves,
James, Jenas, Lennon, Rooney, Walcott.
Paragwai: Villar, Caniza, Gamarra, Caceres, Toledo, Bonet, Acuna, Paredes, Riveros, Valdez, Santa Cruz.
Eilyddion: Barreto,
Bobadilla, Cabanas, Cuevas, Da Silva, Dos Santos, Gavilan,
Gomez, Lopez, Manzur, Montiel, Nunez.
Dyfarnwr: Marco Rodriguez (Mecsico)