大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 09 Gorffennaf 2006
Yr Eidal yn ennill Cwpan y Byd o'r smotyn

Yr Eidal gipiodd Cwpan y Byd 5-3 ar giciau o'r smotyn yn erbyn 10-dyn Ffrainc wedi i Zinedine Zidane gael ei hel o'r maes yn yr amser ychwanegol wedi g锚m gyfartal 1-1.


Wedi g锚m ddifyr tu hwnt, Fabio Cannavaro gododd y tlws ar noson lle roedd yn ennill ei 100ed cap i'r Azzurri.

Yn y loteri o'r smotyn, rhwydodd Fabio Grosso gic olaf yr Eidalwyr i ennill y g锚m wedi i David Trezeguet fethu ei gic i'r Ffrancwyr.

Ond bydd y rownd derfynol yn cael ei chofio am eiliad o walltgofrwydd gan Zidane wrth i gapten Les Bleus weld cerdyn coch yn ei g锚m olaf cyn dod 芒'i yrfa i ben.

Collodd ei ben yn llwyr gan benio amddiffynnwr Yr Eidal, Marco Materazzi, yn ei frest yn ystod yr ail hanner o'r amser ychwanegol.

Ac, wedi i'r dyfarnwr, Horacio Elizondo, drafod 芒'i gyd swyddogion, cafodd Zidane y cerdyn coch a gadawodd y maes yn ei ddagrau.

Yn anffodus i un o chwaraewyr gorau ei genhedlaeth, bydd y lluniau ohonno yn penio Materazzi ac yna'n gadael y maes wrth gerdded heibio'r tlws, yn aros yn y cof am amser maith.

Roedd Zidane a Materazzi wedi bod yng nghanol y digwyddiadau trwy gydol y g锚m.

Aeth Ffrainc ar y blaen yn y seithfed munud wedi i Zidane rwydo o'r smotyn yn dilyn trosedd fler gan Materazzi ar Florent Malouda yn y cwrt cosbi.

Torodd Zidane ei enw yn y llyfrau hanes, ochr yn ochr 芒 Pele, Vava a Paul Breitner fel yr unig chwaraewyr i rwydo mewn dwy rownd derfynol o Gwpan y Byd.

Ond gwaneth cyn amddiffynnwr Everton, Materazzi, yn iawn am ei drosedd 12 munud yn ddiweddarach wrth iddo esgyn yn uwch na neb i benio cic gornel Andrea Pirlo i gefn y rhwyd.

Roedd Ffrainc yn ei chael yn anodd i amddiffyn ciciau gosod yr Azzurri a tharodd Luca Toni beniad yn erbyn y trawst o gornel arall gan Pirlo.

Cafodd y Ffrancwyr eu cyfleon hefyd gyda Thierry Henry a Franck Riberry yn creu problemau i Cannavaro a Gianluca Zambrotta yn yr amddiffyn.

Canfyddodd Toni gefn y rhwyd 芒 pheniad wedi'r awr ond bu rhaid iddo roi'r gorau i ddathlu pan welodd bod lluman y dyfarnwr cynorthwyol yn yr awyr gan ei fod yn camsefyll.

Crymanodd Pirlo gic rhydd grafodd y postyn cyn i Buffon rwystro Zidane rhag rhwydo ei ail g么l 芒 pheniad grymus.

Ond dyna oedd cyfraniad diwethaf Zidane cyn ei gerdyn coch ac er fod gweddill ei d卯m wedi syfrdanu 芒'r hyn ddigwyddodd llwyddodd Les Bleus i ddal ymlaen a gorfodi ciciau o'r smotyn.

Llwyddodd Pirlo, Materazzi, Daniele de Rossi, Alessandro Del Piero a Grosso i rwydo o 12 llath wrth i'r Eidal gipio'r tlws am y pedwerydd tro yn eu hanes.

TIMAU

Yr Eidal: Buffon, Zambrotta, Cannavaro, Materazzi, Grosso, Camoranesi, Pirlo, Gattuso, Perrotta, Totti, Toni.

Eilyddion: Amelia, Barone, Barzagli, De Rossi, Del Piero, Gilardino, Iaquinta, Inzaghi, Nesta, Oddo, Peruzzi, Zaccardo.

Ffrainc: Barthez, Sagnol, Thuram, Gallas, Abidal, Ribery, Vieira, Makelele, Zidane, Malouda, Henry.

Eilyddion: Boumsong, Chimbonda, Coupet, Dhorasoo, Diarra, Givet, Govou, Landreau, Silvestre, Trezeguet, Wiltord.

Dyfarnwr: Horacio Marcelo Elizondo (Ariannin)


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy