PRIF DDIGWYDDIADAU
Ciciau o'r smotyn
Rhwydodd Fabio Grosso 芒 phumed cic Yr Eidalwyr i ennill Cwpan y Byd i'r Eidal.
Yr Eidal 5-3 Ffrainc
Llwyddodd Willy Sagnol i gadw gobeithion prin Ffrainc yn fyw
Yr Eidal 4-3 Ffrainc
Mae Alessandro Del Pieroyn rhwydo 芒 phedwerydd cic yr Eidalwyr
Yr Eidal 4-2 Ffrainc
Rhwydodd Eric Abidal i gau'r bwlch
Yr Eidal 3-2 Ffrainc
Mae Daniele De Rossi' yn rhoi'r Eidal ymhellach ar y blaen.
Yr Eidal 3-1 Ffrainc
David Trezeguet yw'r cyntaf i fethu wrth i'w ergyd daro'r trawst a dod i lawr ar yr ochr anghywir o'r llinell.
Yr Eidal 2-1 Ffrainc
Marco Materazzi sydd nesaf i'r Eidal ac er i Fabien Barthez fynd y ffordd cywir, roedd y gic yn rhy gryf
Yr Eidal 2-1 Ffrainc
Sylvain Wiltord yn dod 芒 Ffrainc yn gyfartal 芒 chic grymus
Yr Eidal 1-1 Ffrainc
Andrea Pirlo sydd i gymryd y gic cyntaf o'r smotyn ac mae'n rhwydo'n hawdd wrth i Fabien Barthez fynd y ffordd anghywir
Yr Eidal 1-0 Ffrainc
120 mun: Sg么r Terfynol - Yr Eidal 1-1 Ffrainc
Bydd angen ciciau o'r smotyn wedi'r ddau d卯m orffen y g锚m yn gyfartal o ran goliau, ond mae amheuaeth petai Ffrainc yn ennill os bydd gan Zinedine Zidane yr hawl i godi'r tlws.
118 mun: Gyda'r g锚m yn prysur ddirwyn i ben a phawb yn meddwl am giciau o'r smotyn, methodd Sylvain Wiltord 芒 chroesi'r b锚l ar draws wyneb y g么l wedi rhediad hyfryd i'r cwrt cosbi.
115 mun: Mae'r 20 munud olaf yn llawn tensiwn ond mae pawb wedi eu synnu ag ymateb Ziinedine Zidane i wawdio Marco Materazzi.
109 munud: Cerdyn Coch - Zinedine Zidane
Mae Zinedine Zidane wedi colli ei ben yn llwyr wrth iddo benio Marco Materazzi yn ei frest ac mae'n ddiweddglo trist i yrfa rhyngwladol un o chwaraewyr gorau'r byd wrth i'r dyfarnwr ei hel o'r maes wedi trafodaeth 芒'r pedwerydd swyddog.
106 mun: Mae Ffrainc yn defnyddio eu heilydd olaf wrth i Sylvain Wiltord ddod i'r maes yn lle Thierry Henry.
Hanner Amser - Amser Ychwanegol: Yr Eidal 1-1 Ffrainc
103 mun: Cafodd Zinedine Zidane ei hun yn rhydd yn y cwrt cosbi ond roedd ei beniad yn uchder cyfforddus i Gianluigi Buffon ei harbed.
100 mun: Dyna oedd cynnig olaf Franck Riberry wrth i David Trezeguet ddod i'r maes yn ei le. Mae Riberry yn cadw at draddodiad y Ffrancwyr o ysgwyd llaw 芒 phob aelod o'r fainc wedi iddo ddod oddi ar y cae.
99 mun: Tarodd Franck Riberry fodfeddi heibio'r postyn wedi cyd chwarae hyfryd rhwng Riberry a Florent Malouda
94 mun: Disgynodd Florent Malouda yn ddramatig o dan bwysau gan Gennaro Gattuso ar ochr cwrt cosbi'r Eidal ond nid oedd y dyfarnwr eisiau clywed ei ap锚l am gic rhydd.
93 mun: Mae Zinedine Zidane a'i esgidiau aur yn rheoli'r chwarae yn y munudau agoriadol o'r amser ychwanegol.
Sg么r Terfynol: Yr Eidal 1-1 Ffrainc
Mae angen amser ychwanegol wedi'r ddau d卯m orffen y 90 munud yn gyfartal.
82 mun: Mae'r ddau d卯m yn ymwybodol mai'r g么l nesaf all ennill Cwpan y Byd ac maent yn nerfus iawn o ildio'r g么l yna.
76 mun: Crymanodd Andrea Pirlo gic rhydd hyfryd fodfeddi heibio'r postyn chwith o tua 25 llath wrth i Fabian Barthez frysio ar hyd y llinell g么l.
70 mun: Am ryw reswm mae Ffrainc yn ergydio o bell, sydd ddim yn trafferthu Gianluigi Buffon rhyw lawer.
64 mun: Mae'r chwarae yn mynd o un pen i'r maes i'r llall wrth i Luca Toni fethu cyfle un pen cyn i Alou Diarra daro ergyd heibio'r postyn yn y pen arall.
63 mun: Casglodd Thierry Henry pas Claude Makelele
yn y cwrt cosbi ond roedd Buffon yn effro a llwyddodd y golwr i arbed yn dda.
61 mun: Roedd Luca Toni yn credu iddo roi'r Eidal ar y blaen ond roedd y llumanwr yn nodi ei fod yn camsefyll.
60 mun: Mae Marcelo Lippi yn dewis dod 芒 dau eilydd i'r maes wrth i Vincenzo Iaquinta a Daniele De Rossi gymryd lle Francesco Totti a Simone Perotta
55 mun: Mae Patrick Vierra yn gorfod gadael y maes ag anaf i linyn ei 芒r. Alou Diarra sydd yn cymryd ei le.
52 mun: Roedd angen tacl dda ar Florent Malouda wedi gwaith da gan Franck Riberry a Zinedine Zidane wrth i Les Bleus ymosod a chreu problemau lu ar ddecharu'r ail hanner.
51 mun: Tra bo'r Azzurri yn cadw llygaid barcud ar Zinedine Zidane, mae Thierry Henry yn cael modd i fyw ar ddechrau'r ail hanner i Ffrainc.
49 mun: Mae'n amlwg bod Thierry Henry ar d芒n yn yr ail hanner wrth iddo ddawnsio'n gelfydd trwy amddiffyn Yr Eidal am yr ail dro mewn tri munud ond roedd Gianluca Zambrotta yno i rwystro ei groesiad rhag cyrraedd Franck Riberry.
46 mun: Dawnsiodd Thierry Henry trwy'r amddiffyn ar ddechrau'r ail hanner ond methodd 芒 tharo ergyd l芒n.
HANNER AMSER: Yr Eidal 1-1 Ffrainc
44 mun: Mae'r Eidal yn marcio Zinedine Zidane mor dyn fel na all capten Les Bleus ddylanwadu ar y chwarae o gwbl.
42 mun: Carlamodd Fabian Barthez allan o'i g么l i ddwyn y b锚l wrth i Simone Perotta redeg tua'r g么l.
41 mun: Am ryw reswm, mae'r dorf yn gwenud y don Fecsicanaidd, er bod y g锚m yn hynod ddifyr!
40 mun: Gwnaeth Thierry Henry yn dda i guro'r amddiffynnwr ar yr asgell dde ond methodd 芒 chanfod Patrick Viera yn y cwrt cosbi.
35 mun: Roedd angen tacl wych gan Lilian Thuram wrth i Luca Toni gasglu pas gelfydd ar ochr y cwrt chwech ac o'r cic gornel, tarodd Toni'r bar 芒 pheniad grymus arall. Mae Ffrainc yn ei chael yn anodd i amddiffyn ciciau cornel Andrea irlo.
30 mun: Ymddengys fod Yr Eidalwyr wedi dod dros y sioc gynnar o ildio g么l gyda Fabio Cannavaro yn dechrau rheoli'r chwarae a chychwyn symudiadau o'r amddiffyn i'r Azzurri.
28 mun: Llwyddodd Marco Materazzi i esgyn unwaith eto yng nghwrt cosbi Les Bleus a phenio cic gornel Andrea Pirlo ond y tro hyn, roedd Lilian Thuram yno i glirio'r b锚l.
19 mun: G么l - Yr Eidal 1-1 Ffrainc
Llwyddodd Marco Matterazzi i wneud yn iawn am lorio Florent Malouda ac ildio'r gic o'r smotyn wrth i gyn chwaraewr Everton esgyn yn uwch na phawb i benio cic gornel Andrea Pirlo i gefn y rhwyd.
13 mun: Chwipiodd Andrea Pirlo gic rhydd i gwrt cosbi'r Ffrancwyr ac roedd angen i Lilian Thuram fod yn effro i glirio'r perygl.
10 mun: Mae'r g么l gynnar yn eu herbyn yn golygu bydd rhaid i'r Eidal ymosod a'r gobaith yw byddent yn chwarae fel y t卯m drechodd Yr Almaen yn y rownd gynderfynol yn hytrach na thimau amddiffynnol, sinicaidd Eidalaidd y gorffennol.
7 mun: G么l - Yr Eidal 0-1 Ffrainc
Rhwydodd capten Ffrainc, Zinedine Zidane o'r smotyn - er iddo wneud ei orau glas i fethu'r gic. Cododd y b锚l yn hynod o hyderus o'r smotyn ac tharodd y bar cyn i'r b锚l ddod i lawr dros y llinell.
1 mun: Pryder i'r Ffrancwyr yn y funud gyntaf un wrth i Thierry Henry orfod derbyn triniaeth am yn hir wedi iddo ef a Fabio Cannavaro daro i fewn i'w gilydd.
TIMAU
Yr Eidal: Buffon, Zambrotta, Cannavaro, Materazzi, Grosso, Camoranesi, Pirlo, Gattuso, Perrotta, Totti, Toni.
Eilyddion: Amelia, Barone, Barzagli, De Rossi, Del Piero, Gilardino, Iaquinta, Inzaghi, Nesta, Oddo, Peruzzi, Zaccardo.
Ffrainc: Barthez, Sagnol, Thuram, Gallas, Abidal, Ribery, Vieira, Makelele, Zidane, Malouda, Henry.
Eilyddion: Boumsong, Chimbonda, Coupet, Dhorasoo, Diarra, Givet, Govou, Landreau, Silvestre, Trezeguet, Wiltord.
Dyfarnwr: Horacio Marcelo Elizondo (Ariannin)
TRIFIA
Mae'r Eidal a Ffrainc wedi wynebu ei gilydd bedair gwaith yng Nghwpan y Byd gyda'r ddau d卯m yn ennill dwy g锚m yr un.
Ym 1938, llwyddodd Yr Eidal i drechu Les Bleus yn rownd yr wyth olaf o'r bencampwriaeth ar y ffordd i ennill y tlws ym Mharis.
Ym 1978 llwyddodd Yr Eidal i ennill 2-1 yng ng锚m agoriadol y gr诺p, er i Bernard Lacombe roi'r Ffrancwyr ar y blaen yn y funud agoriadol.
Ym 1986 llwyddodd Ffrainc, o dan arweiniaeth Michel Platini, i drech'r Azzurri, yn yr ail rownd ym Mecsico ac ym 1998, llwyddodd y Ffrancwyr i ennill ar giciau o'r amotyn wedi g锚m ddi-sg么r yn rownd yr wyth olaf.
Y tro diwethaf i bedwar t卯m o Ewrop gystadlu yn y rownd gynderfynol oedd 1982 - y flwyddyn llwyddodd Paolo Rossi i ysbrydoli'r Azzurri i'r bencampwriaeth.