Llwyddodd Michaela Breeze i chwalu record y Gemau yn y cipiad ac am y cyfanswm yn y gystadleuaeth i ferched 63kg.
Cipiodd 100kg yn y cipiad cyn codi 120kg yn y pont a hwb i sicrhau cyfanswm o 220kg a sicrhau'r fedal aur.
Christine Girard o Ganada gafodd yr arian tra'n llwyddo i godi 121kg a thorri record Breeze yn y pont a hwb a Miel McGerrigle o Ganada gipiodd yr efydd.
MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD
>
Tabl y medalau
> Canlyniadau Sul 19 Mawrth
ATHLETAU
Methodd Tracey Morris 芒 chasglu medal yn y marathon wedi iddi orffen yn bedwerydd, 54 eiliad tu 么l i Liz Yelling o Loegr gasglodd yr efydd.
Kerryn McCann o Awstralia gasglodd y fedal aur am yr ail Gemau'n olynol, gyda Hellen Cherono Koskei o Kenya'n casglu'r arian.
> Morris yn hapus 芒'i pherfformiad
Llwyddodd Catherine Murphy i grafu drwodd i'r ail rownd o 400m y merched fel un o'r collwyr cyflymaf wedi iddi orffen yn bumed yn ei ras rhagbrofol.
Ond roedd siom aruthrol i Christian Malcolm yn rowndiau rhagbrofol y 100m wrth iddo ddioddef anaf i linyn ei 芒r all ei weld yn colli'r 200m a'r 4x100m.
>
Malcolm yn hercian allan o'r 100m
BEICIO
Methodd Geraint Thomas ag ychwanegu at ei fedal efydd wrth i Mark Cavendish o Ynys Manaw gipio'r aur yn y ras scratch 20km.
Ashley Hutchinson o Awstralia oedd yn ail gyda James McCallum o'r Alban yn casglu'r efydd.
BOCSIO
Llwyddodd Kevin Evans i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn ei ornest agoriadol o'r Gemau wrth drechu Robert Earl Montgomery o Ganada 31-19
> Dechrau da i Evans
A camodd Mohammed Nasir ymlaen i rownd yr wyth olaf o'r pwysau is-bry 芒 buddugoliaeth dros Manyo Plange o Ghana.
NOFIO
Llwyddodd Thomas Haffield i gyrraedd rownd derfynol y 400m medley unigol wrth ennill ei ras rhagbrofol ond gorffennodd yn chweched wrth i David Carry o'r Alban gasglu ei ail medal aur o'r Gemau.
TENIS BWRDD
Roedd siom i d卯m dynion Cymru wrth iddynt golli 3-0 yn erbyn Singapore yn y rownd gynderfynol.
Dechreuodd Adam Robertson yn dda gan ennill y ddwy set agoriadol o'i g锚m yn erbyn Xiao Li Cai , ond daeth Cai yn 么l i ennill 3-2.
A collodd Ryan Jenkins a Stephen Jenkins eu gemau 3-0 a bydd rhaid i Gymru fodloni ar herio Nigeria am y fedal efydd ddydd Llun.