Gorffennodd y Cymro o'r Barri mewn amser o 14mun 57.63eil, dros 12 eiliad ar y blaen i Andrew Hurd o Ganada gasglodd yr arian.
> Aur i Davies yn y pwll
A roedd llwyddiant i unig aelod o d卯m gymnasteg dynion Cymru wrth i David Eaton ennill medal arian yn rownd derfynol y bar llorweddol.
> Eaton yn creu hanes
Bu rhaid i Hayley Tullett fodloni ar y fedal efydd yn y 1500m i ferched wedi Lisa Dobriskey o Loegr synnu pawb a chipio'r fedal aur gyda Sarah Jamieson o Awstralia'n casglu'r arian.
> Tullett yn drydydd
MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD
>
Tabl y medalau
> Canlyniadau Llun 21 Mawrth
ATHLETAU
Llwyddodd Rhys Williams a Matt Elias i sicrhau eu llefydd yn rowndiau gynderfynol y 400 dros y clwydi.
Cafodd Williams ei amser gorau erioed wrth ennill ei ras rhagbrofol mewn 49.52eil, dim ond Alwyn Myburgh o Dde Affrica redodd yn gyflymach na'r Cymro ifanc yn y rowndiau agoriadol.
Ond roedd siom i'r gwibiwr Christian Malcolm wedi iddo gadarnhau ei fod yn gorfod tynnu yn 么l o'r 200m oherwydd anaf i linyn ei 芒r.
> Malcolm allan o'r Gemau
BADMINTON
Roedd yn ddiwrnod cymysglyd i d卯m badminton Cymru.
Llwyddodd Neil Morgan i gamu ymlaen yn senglau'r dynion ond colli oedd hanes Richard Vaughan, Matthew Hughes a Martyn Lewis.
Ond cafodd Matthew Hughes a Martyn Lewis lwyddiant yn nyblau'r dynion wrth iddynt drechu p芒r o Trinidad a llwyddodd Jonathan Morgan a James Phillips i drechu p芒r o Jamaica.
Ac yn senglau'r merched, llwyddodd pencampwraig Gemau 1998, Kelly Morgan i drechu Renu Hettiarachchige o Sri Lanka yn y rownd agoriadol.
BOCSIO
Mae tri aelod o d卯m bocsio Cymru wedi sicrhau medalau wrth gyrraedd rownd gynderfynol eu hadranau.
Y capten, Kevin Evans, arweiniodd y ffordd yn yr adran go-drwm (91kg+) 芒 buddugoliaeth gyfforddus dros Haruna Osumanu o Ghana.
Yna llwyddodd Mohammed Nasir i drechu Muhammad Nisar o Bacistan yn yr adran is-bry (48kg).
Bydd y bachgen ifanc o Gasnewydd yn herio Darran John Langley o Loegr ddydd Iau am le yn y rownd derfynol.
A chwblhaodd Jamie Crees fore llwyddiannus iawn i d卯m bocsio Cymru wrth iddo drechu Chukwudi Nwaiwu o Nigeria yn yr adran is-welter (64kg).
Bydd Crees yn herio James Simon Russan o Loegr yn y rownd gynderfynol.
TENIS BWRDD
Llwyddodd dynion Cymru i anghofio'r siom o fethu 芒 chipio medal efydd yn nghystadleuaeth y timau wrth cael dechrau da yn y senglau.
> Siom i d卯m tenis bwrdd Cymru
Cafwyd buddugoliaethau i Stephen Jenkins a Ryan Jenkins yn eu grwpiau rhagbrofol fore Mawrth.
Ac yng nghystadleuaeth senglau'r merched llwyddodd Bethan Daunton, Naomi Owen a Siwan Davies i ennill gemau agoriadol eu grwpiau.