|
|
|
G诺yl Chanukah Neal Belkin yn sgrifennu am Wyl 'Nadoligaidd' yn Israel - Gwyl Chanukah
|
|
|
|
Fel y Nadolig, g诺yl goleuadau yw Chanukah sy'n digwydd yn y gaeaf.
Mae'n ddiddorol iawn i Iddewon a Christnogion fel ei gilydd fod yn dathlu, dros tua dwy fil o flynyddoedd, 诺yl gyda goleuadau yn nghanol y gaeaf.
Gyda'r nosau yn hir, mae'n bosibl fod y bobl ers talwm ofn fod yr haul yn marw ac roedden nhw am ei gynorthwyo i gael ei eni eto.
Mae crefyddau eraill gyda gwyliau goleuadau yn y gaeaf hefyd: Yr Hindwiaid yn dathlu Diwali ddiwedd mis Hydref gyda th芒n gwyllt;
Y Rhufeiniaid - cyn y cyfnod Cristnogol - gyda g诺yl o'r enw Saturnalia, a oedd yn cynnwys goleuadau - canhwyllau.
Wyth diwrnod Mae Chanukah yn 诺yl sy'n parhau am wyth diwrnod a chyneuir canhwyllau bob nos.
Ar y noson gyntaf, un gannwyll, ar yr ail noson, dwy gannwyll ac yn y blaen nes bo wyth cannwyll ar y noson olaf.
Mae canhwyllbren arbennig, Chanukiah, i ddal y canhwyllau.
Dydy hwn ddim yr un peth 芒'r Menorah ond yn dal naw cannwyll yn hytrach na saith.
Mae'r gannwyll ychwanegol yn cael ei galw shamash - y gair Hebraeg am 'gofalwr' - sy'n cael ei defnyddio i gynnau'r canhwyllau eraill.
Cysylltiadau hanesyddol Pam mae'r Iddewon yn goleuo'r canhwyllau hyn? Pam am wyth diwrnod? A beth yw'r enw Chanukah?
Fel y Nadolig, mae cysylltiad rhwng dathlu'r 诺yl heddiw a digwyddiadau hanesyddol a chrefyddol.
Yn y flwyddyn 168 CC, roedd Israel wedi ei meddiannu gan y Syriaid a addolai y duwiau Groegaidd a'r Deml Iddewig yng Nghaersalem wedi ei throi yn allor ar gyfer y duwiau hynny.
Dan eu harweinydd, Yehudah Macabi, gwrthryfelodd yr Iddewon yn erbyn y Syriaid ac yn y flwyddyn 165 CC, llwyddodd i ryddhau Caersalem a'r Deml.
Roedd y Macabiau eisiau adfer y Deml i'w defnydd blaenorol a chynnau'r fflam arferai losgi'n wastadol yno.
Dim digon o olew Ond doedd dim digon o olew sanctaidd - dim ond un botelaid, digon am un diwrnod gyda'r cyflenwad newydd o olew daith wyth diwrnod i ffwrdd.
Serch hynny, fe gyneuo nhw y fflam a digwyddodd gwyrth - fe losgodd yr olew am yr wyth diwrnod nes i'r olew sanctaidd newydd gyrraedd.
Felly, mae'r Iddewon yn dathlu eu buddugoliaeth a'r wyrth yma trwy oleuo canhwyllau am wyth noson.
A chan i'r Deml gael ei hailgysegru adnabyddir yr Wyl wrth y gair Hebraeg am ailgysegru, Chanukah.
Rhannu anrhegion Er bod gwasanaethau crefyddol yn y Synagog ar gyfer Chanukah, yn y cartrefi mae'r prif ddathliadau, eto fel y Nadolig.
Rydym yn rhannu anrhegion ymysg y teulu - yn enwedig i'r plant - ac yn cynnau'r canhwyllau yn y nos yn ein cartrefi, pan fo'r teulu i gyd gyda'i gilydd.
Darperir bwydydd arbennig, yn enwedig rai sy'n cael eu paratoi ag olew, fel toesenni a levivot neu latkes - crempogau sy'n cael eu gwneud o datws.
Mae hyn er mwyn ein hatgoffa o'r wyrth pan losgodd yr ychydig bach o olew am wyth diwrnod.
Amser llawen Cyfnod llawen yw Chanukah, yn enwedig i blant ac yn Israel heddiw dydyn nhw ddim yn mynd i'r ysgol yn ystod yr wyth diwrnod a hynny'n creu awyrgylch ddymunol o wyliau yn y gweithleoedd ac ar y strydoedd.
Unwaith, pan ddychwelais i Israel o ymweliad tramor yn ystod Chanukah, roedd merched yn y maes awyr yn cynnig toesenni i bawb oedd yn cyrraedd y wlad. Croeso cynnes a melys, yn wir!
|
|
|
|
|
|