大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Atgofion Wlpan
Neal Belkin, sydd yn byw yn Israel ac sydd wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am ei brofiad yn dysgu'r Hebraeg ugain mlynedd yn ôl pan symudodd yno i fyw.

Atgofion am Wlpan Neal Belkin, sy'n byw yn Israel ac wedi dysgu Cymraeg yn sôn am ei brofiad o ddysgu Hebraeg ugain mlynedd yn ôl pan symudodd i fyw yn y wlad

. Roedd y flwyddyn 1982 yn ddechreuad newydd yng Nghymru. Fe gychwynnodd S4C ddarllediadau a oedd yn cynnig rhaglenni teledu rheolaidd yn ystod y dydd, bob dydd, am y tro cyntaf erioed.

Roedd gwahanu rhaglenni Cymraeg oddi wrth ddarllediadau Saesneg yn bwysig er mwyn i'r iaith Gymraeg ddatblygu o fod yn rhyfeddod lleol i fod yn iaith go iawn yn y Deyrnas Unedig.

Er nad yw'r broses honno wedi cael ei chwblhau - hyd yn oed heddiw - ni fydd e'n cael ei atal, ac mae adfywiad y Gymraeg yn ei mamwlad ar ôl 500 o flynyddoedd o ormes yn ddigwyddiad cenedlaethol cyffrous.

Yn amlwg, plant sy'n siarad Cymraeg ydy dyfodol yr iaith ond rhaid cynnwys oedolion hefyd.

Y dull Wlpan ydy un o'r dulliau gorau i ddysgu Cymraeg i oedolion.

Cwrs iaith dwys yw hwn a gafodd ei ddatblygu yn Israel yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ôl i'r wladwriaeth gael ei sefydlu yn 1948, ar gyfer dysgu Hebraeg i'r nifer fawr o fewnfudwyr a oedd yn dod i mewn i'r wlad.

Bu'n oOd o lwyddiannus am fwy na hanner canrif, ac mae athrawon Cymraeg wedi teithio i Israel ar gyfer dysgu'r dull, ac wedi ei ddefnyddio yng Nghymru yn eu gwersi.

Pum mis
Beth amser yn ôl fe dreuliais i bum mis yn dysgu Hebraeg mewn Wlpan.
Roedd 1982 yn ddechreuad newydd i mi hefyd. Yng ngaeaf y flwyddyn gadewais fy nheulu a fy mhlentyndod yn Llundain i gychwyn bywyd newydd yn Israel.

Fel pob mewnfudwr, roedd angen arnaf i ddysgu Hebraeg yn gyflym.

Tra'n byw yn Llundain, roeddwn i wedi ymrestru ag yng Nghaersalem a rhai wythnosau ar ôl imi gyrraedd Israel, yn Ionawr 1983, fe gychwynnodd y cwrs.

Wlpan Etzion oedd yr wlpan cyntaf yn Israel. Mewn hen adeilad carreg yn Ne Caersalem, yn ogytal â darparu gwersi Hebraeg dros gyfnod o bum mis, roedd hefyd yn darparu lle i fyw â thri phryd o fwyd y dydd ar gyfer tua thri chant o fewnfudwyr newydd dibriod.

Dau o Ganada
Fe fum i'n byw mewn ystafell gyda dau fyfyriwr Canadaidd -ond roedd hynny'n gamgymeriad, gan inni siarad yn naturiol yn Saesneg heb ymarfer yr Hebraeg yr oeddem ni'n ei dysgu.

Ystafell welyRoedd pobl o lawer o wledydd yn yr Wlpan a bron bob iaith dan haul yn cael eu siarad!

Roedd myfyrwyr o Orllewin Ewrop, o du draw i'r Llen Haearn, o Ogledd a De America, y gwledydd Arabaidd, Ethiopia, De Affrica, Awstralia ac yn y blaen.

Fe ddywedodd myfyrwraig wrtho i am ei thaith anghyfreithiol o Iran i Israel drwy Bacistan, a gostiodd swm enfawr.

Gwneud cyfeillion
Ar y dechrau arhosai pobl gydag eraill oedd yn siarad yr un iaith a hwy ond, cyn bo hir, roeddem ni'n gwneud cyfeillion newydd gyda myfyrwyr eraill nad oedd yn siarad yr un iaith - ac eithrio Hebraeg sâl!

Mae'n brofiad diddorol ceisio adnabod rhywun o'r rhyw arall gan chwilio geiriau newydd mewn geiriadur!

Saith lefel
Roedd saith lefel o ddosbarthiadau gyda phob myfyriwr yn cael ei osod mewn dosbarth addas yn ôl canlyniadau arholiad ar y dydd cyntaf.

Roedd y dosbarthiadau yn cynnwys myfyrwyr nad oeddent yn byw yn Wlpan Etzion, felly roedd rhwng 20 a 30 ym mhob dosbarth.

Fe gynhwysodd y cwrs 25 awr o wersi yr wythnos - a gwaith cartref, digwyddiadau addysgiadol eraill fel teithiau i leoedd pwysig a lleoedd eraill o ddiddordeb yn Israel a darlithiau am hanes Israelaidd ac Iddewig, a digwyddiadau diwylliannol.

Roedd gwersi bum dydd yr wythnos, o ddydd Sul i ddydd Iau, rhwng wyth o'r gloch yn y bore ac un o'r gloch yn y prynhawn (dydd Gwener a dydd Sadwrn yw'r penwythnos yn Israel).

Fe ddisgleiriodd yr athrawes sawl tro wrth droi sylw syml (er enghraifft, sylw am y tywydd neu ei thaith hi i'r Wlpan y bore 'na) yn wers a barodd o tua awr gan ddatblygu ynddi'r cystrawennau neu'r ramadeg a gynlluniodd hi i'r wers.

Newyddion radio
Roedd newyddion ar y radio mewn Hebraeg hawdd yn rhan bwysig o'r gwersi.

Roedd darllediad newyddion o bum munud bob bore yn gynnar, gyda geirfa hawdd, ac wedi ei ddarllen yn arafach nag arfer.

Bob bore, byddai'r athrawes yn recordio'r rhaglen hon cyn iddi hi adael cartre ar gyfer dod i'r Wlpan, a byddai'r dosbarth yn treulio hanner awr yn gwrando ar hyn, yn ceisio deall rhan fach - o leiaf - o'r ffregod i gyd.

Ar y pryd, ni allwn ddeall bwletin newyddion normal.

Yn ogystal â hyn, astudiwyd erthyglau mewn papur newydd mewn Hebraeg hawdd.

Wrth ddefnyddio'r newyddion a materion cyfoes fel ffynonellau Hebraeg, fe ddysgon ni Hebraeg ac fe ddysgon ni am ddigwyddiadau yn Israel ac yn y byd.

Rwyf yn sicr y byddai darllediadau a phapurau fel y rhain o gymorth i ddysgwyr y Gymraeg.

Defnyddiol a dymunol
Wlpan Etzion fu fy nghartref am bum mis a bu'n gychwyn dymunol a defnyddiol i fywyd yn Israel.

Ar ddiwedd yr amser 'na, roeddwn i wedi dysgu rhywbeth am fy ngwlad newydd, ac roedd fy Hebraeg yn rhesymol.

Yn awr, rhaid imi geisio'i defnyddio i chwilio am waith!





dwyrain_canol

Israel
Israel - Chwilio am ffordd o fyw

Atgofion Wlpan

O Dryweryn i Gaza

Gŵyl y Coed

Beddau Cymry yn Israel




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy