|
|
|
Siabat Neal Belkin, Israel, yn sgrifennu am ddiwrnod mwyaf bendithiol yr wythnos |
|
|
|
Siabat: Coron y Creu
Gan: Neal Belkin, Israel
Darllenwn yn yr ail bennod o'r Torah - Pum Llyfr Moses - i Dduw orffwys ar y seithfed dydd oddi wrth y gwaith a wnaeth yn ystod chwe dydd y Creu.
Bendithiodd a sancteiddiodd y dydd hwn a'i droi yn Sabath (Gen 2:1-3), neu, yn Hebraeg, Siabat - gair sy'n tarddu o'r ferf sy'n golygu 'gorffwys'.
O'r herwydd daeth y seithfed dydd (Sadwrn) ym mhob wythnos yn Siabat i'r Iddewon ac yn un dydd o'r saith pan nid ydym yn gweithio.
Yn ddiwrnod i fwrw blinder ac i dreulio amser gyda'n teulu a'n ffrindiau.
Mabwysiadodd y Cristnogion cyntaf Siabat fel dydd i orffwys ond dros y canrifoedd, wrth i Gristnogaeth wahanu oddi wrth ei gwreiddiau Iddewig, daeth dydd Sul yn brif ddiwrnod yr wythnos ar gyfer addoliad Cristnogol (Actau 20:7), achos, yn 么l traddodiad Cristnogol, ar ddydd Sul y bu Atgyfodiad Iesu (Marc 16:1-9).
O ganlyniad dechreuodd pobl feddwl am y Sul fel y 'Sabath Cristnogol' ac erbyn heddiw dyma 'ddydd y gorffwys' i Gristnogion.
Disgrifiais i yn fy erthygl Shavuot bod Siabat yn rhan o'r Deg Gorchymyn ac felly nid yn unig yn gyfle inni orffwys ond yn orfodaeth arnom.
Pwysig hefyd yw'r ffaith bod y gorchymyn yn berthnasol i'n gweision a'n gwasanaethesau, ein hanifeiliaid a dieithriad "a fyddo o fewn dy byrth" (Ex 20:10, Deut 5:14) ac i'r holl gread.
Dim gwaith Mae'r Deg Gorchymyn yn ymddangos ddwywaith yn y Torah, a'r pedwerydd Gorchymyn yn dweud; "Cofia y dydd Sabath" (Ex 20:8) ac eto "Cadw y dydd Sabath" (Deut 5:12). Y ddau air yn dynodi nodweddion arbennig i Siabat i Iddewon yn yr hen amserau - ac mae'r arferion 'hynny yn parhau hyd heddiw.
Cofiwn y Siabat a'r ffaith i Dduw ei wneud yn sanctaidd, trwy greu awyrgylch o orffwys gartref a chyda gwasanaethau arbennig yn y synagog.
Ar y llaw arall yr ydym yn cadw'r Siabat trwy beidio a chyflawni pethau a ystyrir yn 'waith' - yn union fel Duw yn gorffwys ar y seithfed dydd.
Yn hanes y Creu (Gen 1), ar ddiwedd pob dydd mae'r geiriau, "a'r hwyr a fu, a'r bore a fu ..." a'r geiriau hyn sy'n egluro pam nad yn y bore y dechrau'r dyddiau yn 么l y grefydd Iddewig ond gyda'r hwyr.
Felly, ar fachlud haul nos Wener y cychwyn Siabat gyda'r holl deulu, ac, efallai, ffrindiau sy wedi dod i aros am y Siabat yn cyrraedd gartref yn ystod brynhawn Gwener.
Felly, hanner dydd gwaith yw'r Gwener ac yn Israel heddiw mae awyrgylch arbennig i bob dydd Gwener gyda'r bobl yn mynd i'r siopa yn gynnar er mwyn prynu eu bwyd Siabat a'r siopau yn cau tua un neu ddau o'r gloch.
Nid oes cludiant cyhoeddus wedi tri o'r gloch a chydol y Siabat .
Ar y Sadwrn nid oes papurau newydd ac mae'r banciau a swyddfeydd ynghau, er bod ychydig o siopau yn agored - yn bennaf mewn canolfannau siopa y tu allan i'r trefi.
Ar fachlud haul, mae'r menywod yn cynnau canhwyllau Siabat - dwy ar gyfer pob menyw ac yn symbol o'r ddau gair "cofia" a "cadw".
Mae'r canhwyllau'n creu awyrgylch dymunol yn y t欧 - ond mae'n bwysig eu cynnau cyn machlud haul gan mai 'gwaith' yw cynnau t芒n ac yn waharddedig ar y Siabat.
Bwyd
Ar y dydd Gwener y mae'r holl brydau bwyd yn cael eu paratoi a hynny'n rhoi bod i'r hen ddihareb Hebraeg sy'n dweud mai "y sawl sy'n paratoi ei fwyd ar y Gwener a fwyty ar y Siabat" a hynny'n wers inni baratoi pethau yn brydlon.
Aiff y dynion i'r synagog ar gerdded gan fod gyrru yn waith - hynny yw, cynnau t芒n yw tanio'r peiriant.
Pery'r gwasanaeth am oddeutu awr a hanner ac yn ystod y gwasanaeth mae'r gynulleidfa yn canu'r emyn Lecha dodi sy'n golgu, "Dere, fy nghariad" yn Hebraeg a ninnau'n croesawu'r Siabat fel pe byddai briodferch gan ei phriodfab.
Ar 么l y gwasanaeth, ac yn 么l gartref, mae'r pryd o fwyd nos Wener yn dechrau gyda 'cidwsh' - darlleniad sanctaidd.
Mae'r tad, neu ddyn arall, yn darllen darn sy'n cynnwys Gen 2:1-3, bendithir gwydraid o win, a gweddi sy'n mynegi ein diolchgarwch i Dduw am Siabat. Mae pawb wedyn yn yfed gwydryn bach o'r gwin: gwin coch a melys iawn fel arfer er bod pob math o winoedd yw addas.
Ar y bwrdd mae 'dwy dorth o fara gwledd a elwir 'chala'. Dwy er mwyn ein hatgoffa am y ddau ddogn o fanna a dderbyniodd yr hen Israeliaid ar y chweched dydd bob wythnos yn ystod eu taith drwy'r anialwch.
Casglodd yr Israeliaid y manna bob bore, dogn i bob person; ond ar y chweched dydd cymerai'r bobl ddau ddogn yr un ga na fyddai'r manna yn cwympo o'r nefoedd y dydd canlynol, y Siabat (Ex 16:5, 22-30).
O hyn, dysgwn mai 'gwaith' yw cario rhywbeth y tu allan y t欧 hyd yn oed ac yn rhywbeth i'w osgoi ar y Siabat.
Cyn y pryd, gorchuddir y chalot gan liain oherwydd wedi i'r manna gwympo fe'i gorchuddiwyd 芒 haenen o wlith (Ex 16:13-15).
Nid oes brys i fwyta ac ni fyddwn yn edrych ar y teledu ar 么l y pryd nac yn mynd i glybiau nos nac yn gwneud gwaith t欧 ac ni fyddwn yn troi ymlaen nac yn ddiffodd pethau sy'n defnyddio trydan - er y gallwn eu troi ymlaen cyn y Siabat, a'u gadael ymlaen gydol y Siabat.
Gwaherddir hefyd, ysgrifennu a chyffwrdd ag arian.
Yn wir, mae 39 o wahanol bethau a waherddir.
Ond yn ei hanfod dydd tawel yw'r Siabat - dydd i fwrw blinder ac yn gyfle i beidio 芒 meddwl am ein problemau arferol gan na allwn wneud dim yngl欧n 芒 nhw ar y dydd.
Felly, mae digon o amser i fwyta mewn awyrgylch hamddenol a digon o amser hefyd i ganu caneuon y elwir 'zmirot' (caneuon Siabat) sy'n addas ar gyfer yr awyrgylch.
I'r synagog Fore Sadwrn, awn i gyd, yn ddynion ac yn fenywod, i'r synagog i wasanaeth sy'n parhau am tua thair awr. Gwrandewir ar ddarlleniad o'r Torah gyda darn gwahanol bob wythnos fel ein bod wedi ei ddarllen i gyd erbyn diwedd y flwyddyn.
Wedi'r darlleniad bydd rhywun yn dal sgr么l y Torah i ddangos y darn 芒 ddarllenwyd a phawb yn canu fel canodd yr Iddewon bob Siabat ers adeg y Rhufeiniaid:
Hwn ydy'r Torah
A osododd Moses gerbron meibion Israel
Yn 么l Duw
Yn llaw Moses.
Yn 么l gartref dechreuwn giniawa gyda chidwsh a gwydraid o win. Ond cidwsh gwahanol yw'r un bore Sadwrn o gymharu 芒'r un nos Wener ac mae dwy ran: Ex 31:16-17, sy'n egluro bod y Siabat yn bodoli oherwydd i Dduw greu y byd mewn chwech diwrnod a gorffwys ar y seithfed dydd; ac Ex 20:8-11 - y pedwerydd gorchymyn.
Yn ystod y pryd canwn zmirot eto.
Yn ystod y prynhawn gallwn ymlacio, darllen, mynd am dro, neu ymweld 芒 ffrindiau - gan gerdded, wrth gwrs.
Ni chaniateir defnyddio cludiant cyhoeddus gan y byddai hynny yn peri i eraill weithio.
Y gyda'r nos, cyn machlud haul, cawn drydydd pryd neu 'seuda shlishit yn Hebraeg - pryd llai na'r lleill gan inni fwyta gormod yn barod! Er nad oes cidwsh yr ydym yn canu zmirot er mwyn parhau'r awyrgylch ddymunol.
Wedi gwasanaeth byr yn y synagog daw'r Siabat i ben wedi machlud haul gydag Hafdala sef defod fer yn y t欧 pryd darllenir am y gwahaniaeth rhwng pethau gl芒n (fel Siabat) a phethau cyffredin (fel y chwe diwrnod arall) ac wedyn mae pawb yn arogleuo perlysiau dymunol fel bod y Siabat yn diweddu gyda phrofiad hyfryd.
Wrth gwrs nid yw'r rhai hynny nad ydynt yn grefyddol yn mynd i'r synagog. Gwell ganddynt hwy fynd i gefn gwlad, i'r traeth neu i d欧 bwyta, i g锚m b锚l-droed, neu i siopa.
Bydd eraill yn edrych ar y teledu neu'n gwrando ar gerddoriaeth fel y gwneir ar y Sul yng Nghymru.
Beth bynnag a wnawn yr ydym i gyd, erbyn diwedd y Siabat wedi adnewyddu ein nerth ac yn barod i wynebu wythnos newydd o waith.
Felly, hoffwn i ddymuno i bawb, heddwch Siabat neu yn yr Hebraeg, Siabat Sialom.
|
|
|
|
|
|