|
|
|
Yom Cipwr Neal Belkin yn sgrifennu o Israel am 'Ddydd y Cymod' |
|
|
|
Yn fy erthygl am Rosh Hashana dywedais bod yr 诺yl honno yn gychwyn y 'Deg Dydd o Edifeirwch' sy'n cyrraedd eu hanterth gyda Yom Cipwr - G诺yl neu Ddydd y Cymod - yr 诺yl Iddewig bwysicaf a sancteiddiaf.
Ond nid 驳诺测濒 arferol na dathliad mo Yom Cipwr.
Ymprydio am ddiwrnod Yn hytrach bodoli er mwyn cymod mae Yom Cipwr (Lefiticus 16:29-31) lle mae'r ymadrodd 'y cystuddiwch eich eneidiau' yn golygu ymprydio heb na bwyd na diod am ddiwrnod cyfan o fachlud haul i awr wedi'r machlud y dydd canlynol.
Mae'r diwrnodau yn 么l y calendr Hebreig yn dechrau ac yn gorffen ar fachlud haul ar sail y disgrifiad o'r diwrnodau yn hanes y Creu yn Genesis 1: "Yr hwyr a fu, a'r bore a fu," sy'n golygu bod y nos yn dod cyn y bore.
Serch hynny, 驳诺测濒 yw hi, nid dydd galar, a phawb yn gwisgo eu dillad gorau - ond nid lledr gan fod angen rhywfaint o wyleidd-dra - ac yn cyfarch ei gilydd "chag same'ach" - "G诺yl hapus".
Mae'r gwasanaethau yn y synagog yn canolbwyntio, fel ar Rosh Hashana, ar gymod ac ar edifeirwch ond gyda phwyslais hefyd ar wedd茂o ar Dduw i roi ein henwau i lawr yn 'Llyfr y bywyd'.
Hynny oherwydd y traddodiad mai Yom Cipwr yw'r dydd y mae Duw yn penderfynu ffawd ei blant yn ystod y flwyddyn newydd a ninnau, felly, yn gwedd茂o am gael ein henwau yn 'Llyfr y bywyd, y fendith a'r heddwch' ac yn y 'Llyfr maddeuant'.
Maddau i eraill
Dim ond un elfen o Yom Cipwr ydi maddeuant Duw gan fod maddau i bobl eraill yn elfen hefyd a hynny'n beth anodd iawn weithiau.
Oherwydd cyn y gallwn dderbyn maddeuant gan Dduw dros ein pechodau yn erbyn person arall rhaid inni fynd at y person hwnnw yn bersonol gan ymddiheuro a derbyn ei faddeuant.
Felly rydym yn cysylltu 芒 ffrindiau, perthnasau, a chymdogion ac hyd yn oed rai sy'n gas gennym er mwyn cael maddeuant.
Ac mae'n rhaid i'r Iddew faddau i bob un sy'n dod ato deirgwaith i ymddiheuro neu, fel arall, y sawl sy'n gwrthod sy'n pechu!
G诺yl maddeuant nid dial yw Yom Cipwr.
Yn ystod gwasanaethau'r pnawn yn y synagogau darllenwn lyfr Jonah sy'n ein dysgu nad yw'n bosibl ffoi rhag Duw a bod yn rhaid inni wynebu'n diffygion a'n ffaeleddau nid ceisio'u hosgoi.
Mae Yom Cipwr yn gyfle i wneud hyn.
Heb deledu na radio Yn Israel mae'n ddydd gydag awyrgylch arbennig. Nid oes na theledu na radio gydol y dydd.
A chan nad oes neb yn gyrru does dim ceir ar y ffyrdd na chludiant cyhoeddus ond pawb yn cerdded yr heolydd ar eu ffordd i'r synagogau neu i ymweld 芒 ffrindiau neu deulu.
Atgofion trist Ond mae atgofion trist hefyd - ar y dydd hwn yn 1973, pan oedd pawb yn y synagogau neu gartref gyda'u teuluoedd, ymosododd yr Aifft a Syria ar Israel.
Bu farw tua 6,000 o filwyr Israelaidd mewn digwyddiad sy'n cael ei adnabod fel
(Gwefan Saesneg)
Hyd yn oed heddiw, mae Yom Cipwr yn dechrau y diwrnod cynt i lawer o deuluoedd gydag ymweliadau 芒 beddau yn y mynwentydd milwrol.
Mae'n wir mai 'Dydd y Cymod' yw'r dydd hwn ond i lawer o Israeliaid, nid yw'n '诺yl' o gwbl.
|
|
|
|
|
|