大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Y ddirprwyaeth lawn yn Matagalpa, y brifddinas, ar Ddydd Gwyl Dewi Dirprwyaeth i Nicaragua
Mawrth 2007
Mae'r nawfed ddirprwyaeth o Gymru i Nicaragua ar bythefnos o ymweliad 芒'r wlad hon yn America Ganol.
  • Hanes a lluniau'r daith yma.

    Mae'r gr诺p, a drefnwyd gan Ymgyrch Cefnogi Nicaragua, yn cynnwys aelodau o Bontypridd, Caerfyrddin, Blaenau Ffestiniog, Penygroes, Rhuthun, Yr Wyddgrug a Wrecsam (ac un o dros y ffin o Lerpwl).

    Maent yn gymysgedd o weithwyr datblygu cymuned a'r sector gwirfoddol, gweithwyr ieuenctid, meddyg, cynhyrchydd gyda Radio Cymru, ffotograffydd proffesiynol, ac un sydd ar fin gadael yr ysgol i astudio Datblygiad Rhyngwladol.

    Ers trefnu'r ddirprwyaeth gyntaf ym 1994, mae NSC Cymru wedi gwneud cysylltiadau cryf gydag Arfordir y Caribi yn Nicaragua, y rhan aml-ethnig, amlieithog o'r wlad. Y tro hwn, bydd y gr诺p yn aros yn Kukra Hill, pentref ynysig 40 munud efo cwch o Bluefields, prifddinas y rhan deheuol. Byddant yn aros gyda theuluoedd, yn cyfarfod gyda Action Aid, sydd wedi datblygu prosiect d诺r glan yn yr ardal.

    Byddant hefyd yn ymweld 芒 phrosiect radio cymunedol, ac yn trefnu gweithdy cynhyrchiad radio ar gyfer gwirfoddolwyr brwd yr orsaf radio. Yn ystod eu harhosiad. Byddant hefyd yn rhoi 40 set radio clocwaith, a gaiff eu dosbarthu i deuluoedd tlotaf yr ardal, sydd yn byw heb drydan, ac na fedr fforddio batris radio hyd yn oed.

    Yn 么l Huw Meredydd Roberts, sy'n byw ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd. "Rydym yn bwriadu creu cyswllt rhwng gorsaf radio gymunedol yn Kukra Hill yn Nicaragua a Radio Bro Blaenau ym Mlaenau Ffestiniog - sef gorsaf radio gymunedol sy'n rhan o wasanaeth 大象传媒 Radio Cymru, lle dw i'n gweithio. Mi fydd y ddwy orsaf yn darlledu cyfarchion i wrandawyr ei gilydd a thrwy hynny, gobeithio, yn codi ymwybyddiaeth am y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng cymunedau yng Nghymru ac yn Nicaragua."

    Bydd hanner cyntaf y daith yn cynnwys ymweliad 芒 Matagalpa, yng Ngogledd Nicaragua, i aros ar fferm goffi masnach deg, a chyfarfod ag ymgyrchwyr d诺r o'r Mudiad Cymunedol lleol, gaiff eu hariannu yn rhannol gan Gymorth Cristnogol. Bydd ail ran y daith yn y brifddinas Managua, lle bydd y gr诺p yn cyfarfod NGOs, undebau llafur a gwleidyddion, i geisio dysgu am oblygiadau y Sandinistiaid yn dychwelyd i rym wedi 16 mlynedd yn yr anialwch. Y Sandinistiaid oedd plaid y Chwyldro yn ystod yr Wythdegau pan wnaeth diwygio tir, rhaglenni pwysig iechyd ac addysg wella bywydau y tlodion. Fodd bynnag, collasant yr etholiad yn 1990, wedi rhyfel cartref, yn erbyn rebels y Contra, a gal eu hariannu gan yr Unol Daleithiau.

    "Mae'n amser arbennig o gynhyrfus i ymweld 芒'r wlad" meddai Ben Gregory, ysgrifennydd yr Ymgyrch. "Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, mae yna lawer o obaith yn Nicaragua, mae'r Llywodraeth newydd eisoes wedi dileu ffioedd iechyd ac addysg, a oedd yn rhwystro'r tlawd, ac wedi arwyddo am integru rhanbarthol mewn ymgais i wella ei heconomi."

  • Wedi dychwelyd, anfonodd Huw Roberts, un o'r criw hanes a lluniau o'r daith aton ni - cliciwch yma.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy