大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


CefndirY 大象传媒 yn y Steddfod

Beti GeorgeBydd canolfan 大象传媒 Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn gornel fywiog a difyr gydol yr wythnos gyda rhaglenni di-ri yn cael eu darlledu o stiwdios radio a theledu yno.



Bydd canolfan 大象传媒 Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn gornel fywiog a difyr gydol yr wythnos gyda rhaglenni di-ri yn cael eu darlledu o stiwdios radio a theledu yno.

Eleni bydd y stiwdios yn rhai y bydd modd gweld i mewn iddyn nhw, fel y gall pobol weld eu hoff gyflwynwyr wrth eu gwaith, pobol fel Eleri Sion a Jonsi, Beti George a Hywel Gwynfryn.

Bydd cynnwrf hefyd o gyfeiriad y stiwdio fawr ar yr un safle, gyda bandiau ac unigolion yn difyrru'r dorf gydol yr wythnos, o hanner dydd hyd at 2.30 bob dydd.

Ar y dydd Llun bydd digon o gyfle i sgrechian gwerthfawrogiad wrth i Max N a Dylan Davies ddiddori'r dorf. Ar y dydd Mawrth, Caryl Parri Jones a Huw Chiswell fydd yn perfformio; ddydd Mercher bydd Pheena a Frizbee yn darparu'r adloniant, ar ddydd Iau bydd yr hen law Meic Stevens yn perfformio cyn un o ddoniau newydd Cymru, Daniel Lloyd, ar ddydd Gwener Elin Fflur ac Alun Tan Lan fydd yn diddannu wrthi gyda Bryn Fon a'r Band a Ryland Teifi yn cloi wythnos wych ar y dydd Sadwrn.

Bydd myrdd o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn nghornel 大象传媒 Cymru o'r maes, a digon i ddal sylw a diddanu.

Ar radio...
Mae Radio Cymru yn addo gwasanaeth di-dor ar y tonfeddi, yn llythrennol felly wrth i'r orsaf ddarlledu trwy'r dydd a'r nos yn ystod wythnos y Brifwyl.

Hywel Gwynfryn a Nia Lloyd Jones fydd yn dod 芒 holl ddigwyddiadau'r llwyfan a miri'r maes yn fyw ar y dydd Sadwrn cyntaf,gydag Eleri Si么n wedyn yn ymuno 芒 Hywel weddill yr wythnos yn Eisteddfod Casnewydd gan ddod 芒 chyffro'r seremon茂au a'r cystadlu a bwrlwm y maes hyd y diwedd.

Un o raglenni rheolaidd yr wythnos fydd Tocyn Wythnos lle bydd Beti George yn edrych ar ddigwyddiadau'r dydd, o'r prif seremon茂au i'r digwyddiadau ymylol yng nghwmni llu o gyfranwyr, o feirniaid swyddogol ac answyddogol, buddugwyr a chyfranwyr bywiog a bachog.

Ymysg y llu o leisiau fydd Dylan Iorwerth, Twm Morys, Geraint Lewis, Hywel Teifi, John Meirion Morys a Kevin Roberts.

Bydd C2 hefyd yn pacio'i babell ac yn ei throi hi am gynnwrf y Steddfod, gan ddod 芒 chynnyrch newydd yr wyl, o CDs i gylchgronau a nwyddau, a hefyd holl egni Maes B a phrif berfformiad pob nos.

Huw Stephens a Beca Evans fydd yn cyflwyno Anweledig, Meinir Gwilym, Bryn Fon, a llawer mwy tra bydd Dafydd Du yn cadw trefn o'r stiwdio.

Bydd Radio Cymru hefyd yn dod 芒 chyngherddau'r Brifwyl yn fyw i glydwch eich lolfa gan gynnig gwledd gyfoethog o rai o ddoniau cerddorol y dydd.

Yn Cyngerdd y Gerddorfa o'r Eisteddfod Genedlaethol bydd Beti George ac Alwyn Humphreys yn cyflwyno Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 大象传媒 gyda'r unawdydd Julian Lloyd Webber ar y soddgrwth yn perfformio gweithiau Hoddinott, Elgar a Dvorak. Bydd y cyngerdd hwn hefyd yn cael ei ddarlledu gan 大象传媒 Cyru ar S4C.

Ar Deledu...
Bydd prif gyflwynydd teledu'r Brifwyl, yn dathlu mwy na'r Eisteddfod ar y maes yng Nghasnewydd eleni - sef dathlu 25 mlynedd o ddarlledu o'r Eisteddfod.

"Eleni yng Nghasnewydd, mi fyddai'n cyflwyno'r Eisteddfod ar y teledu am y bumed flwyddyn ar hugain yn olynol, ac yn mwynhau cymaint ag erioed," meddai Huw

Bydd Alwyn Humphreys yn darlledu'n fyw o'r Brifwyl o 10 y bore ar S4C digidol. Cewch gwmni Huw a'i gyd-gyflwynwyr Lisa Gwilym, a Sh芒n Cothi bob prynhawn o ddydd Llun ymlaen am 3.30pm. Gyda'r nos, bydd Huw a Lisa Gwilym yn cyflwyno uchafbwyntiau'r cystadlu, holl glecs y maes a chyfweliadau gyda'r buddugwyr yn fyw o'r stiwdio fawr ar safle 大象传媒 Cymru ar y maes..

Ar y we...
Bydd Cymru'r Byd yn yr Eisteddfod am yr wythnos gyfan yn casglu adolygiadau, digwyddiadau, adroddiadau a lluniau di-ri, gan ddarparu darlun llawn o hwyl yr wyl trwy lun a gair ar www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2004 ac yn Saesneg ar www.bbc.co.uk/eisteddfod2004.Mae'r safle hon hefyd yn cynnig erthyglau a gwybodaeth am holl ddigwyddiadau'r eisteddfod.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 大象传媒 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy